Normaniaid

Pobl o ogledd Ffrainc, â'u gwreiddiau yn Llychlyn (yn bennaf o Ddenmarc) oedd y Normaniaid (yn llythrennol: gwŷr y Gogledd). Cyrhaeddasant Ffrainc yn ystod y 9g. O dan Hrolf Ganger dilynasant Siarl y Tew, brenin Ffrainc. Newidiodd Hrolf ei enw i Rollo (sef ffurf Ffrangeg ar Hrolf) a chafodd dir ger aber Seine gan y brenin. Daeth tir Rollo yn Ddugiaeth Normandi ym 911 a enwyd ar ôl y Normaniaid.

Derbyniodd y Normaniaid Gristnogaeth yn grefydd a Ffrangeg yn iaith. Datblygodd eu diwylliant i fod yn wahanol iawn i ddiwylliant eu hynafiaid yn Llychlyn, ac yn wahanol hefyd i ddiwylliant pobl Ffrainc. Roedd Normandi yn ardal arbennig o ddeinamig a threfnus, ac o ganlyniad, llwyddodd y Normaniaid i goncro tiriogaeth enfawr ledled Ewrop.

Yn nwyrain Ewrop, symudodd y Llychlynwyr (a adwaenid gan y pobl Slafig lleol wrth enw 'y Farangiaid) i ardal Kiev.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search