Math | iaith farw, extinct language, iaith naturiol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Iaith a siaredid yn Shetland ac Ynysoedd Erch tan y cyfnod modern yw'r Norn. Mae hi'n perthyn yn agos i'r Norwyeg a Ffaröeg. Erbyn heddiw tafodiaith Albanaidd yw'r Shetlandeg a siaredir ar yr ynysoedd (er bod dylanwad y Norn yn gryf arni).
Cyflwynwyd yr iaith yn y 9g ar draul yr iaith Picteg. Bu farw siaradwr olaf yr iaith tua 1850. [1] Yn 1894 ymwelodd Jacob Jacobsen ieithydd o Ynysoedd Ffaro ag ynysoedd Shetland ac Erch, ond enwedig Shetland, er mwyn cofnodi'r iaith Norn fyddai'n debyg i'w Ffaröeg ef. Cofnododd oddeutu 10,000 o eiriau gan hen drigolion yr ynysoedd. Yn 1928 cyhoeddodd ei ymchwil yn y llyfr yn Daneg,Etymologisk ordbog over det norrøne sprog på Shetland (a gyfieithwyd yn ddiweddarach i'r Saesneg). Yn 1929 cofnododd Albanwr, Hugh Marwick, oddeutu 3,000 o eiriau o dafodiaeth Ynysoedd Erth o'r iaith.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search