Nymff

Darlun o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o Hylas a'r Nymffod gan John William Waterhouse
The Water Nymph gan Herbert James Draper.

Ysbryd benywaidd ym Mytholeg Roeg yw nymff. Fe'i cysylltir yn nodweddiadol â lleoliad neu dirffurf penodol. Roedd nymffod eraill, mewn ffurf merched ifanc yn wastad, yn rhan o osgordd duw, megis Dionysus, Hermes, neu Pan, neu dduwies, megis Artemis.[1] Roedd nymffod y targed mynych o satyriaid. Maen nhw'n byw ar fynyddodd ac mewn gwigfaoedd, ar bwys tarddiadau neu afonydd, hefyd mewn coed a chymoedd a grotos oer. Fe'u cysylltir ym fynych â'r uwch dduwdodau (endidau sydd yn uwch na'i hunain, hynny yw), megis Artemis, Apollo, a Dionysus.

Mae'r briodas symbolaidd rhwng nymff a phatriarch, eponym y bobl fel arfer, yn cael ei hailddweud yn ddiddiwedd o fewn mythau tarddiad Groegaidd; benthycodd eu huniad awdurdod i'r brenin hynafol a'i linell.

  1. "Handmaidens of Artemis?", The Classical Journal 92.3 (Chwefror 1997), t. 249-257.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search