Ocsitaneg

Ocsitaneg
occitan, lenga d'òc
Siaredir yn Ffrainc
Sbaen
Yr Eidal
Monaco
Cyfanswm siaradwyr 500,000-1,000,000[1]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
Tafodieithoedd
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Catalonia, Sbaen (hi yw iaith ddewisol Val d'Aran)
Rheoleiddir gan Conselh de la Lenga Occitana (Cymraeg: Cyngor yr Ocsitaneg)
Codau ieithoedd
ISO 639-1 oc
ISO 639-2 oci
ISO 639-3 oci
Wylfa Ieithoedd

Siaredir Ocsitaneg ("Cymorth – Sain" (ynganiad)  a adnabyddir hefyd fel lenga d'òc) yn Ne Ffrainc, yn bennaf yn ardal Profens, rhannau o'r Eidal (Dyffrynoedd Ocsitan), rhannau o Sbaen (Dyffryn Aran) ac ym Monaco; yn answyddogol, gelwir yr ardaloedd hyn yn Ocsitania. Mae'r Ocsitaneg yn un o'r ieithoedd Romáwns ac mae'n perthyn yn agos i Gatalaneg.[2]

Nid yw Ffrainc wedi cefnogi'r iaith yn effeithiol, ac mae'r niferoedd sy'n siarad Ocsitaneg heddiw'n lleihau, ond caiff ei hystyried yn iaith swyddogol gan Lywodraeth Catalwnia.[3] Ymhlith y siaradwr enwog mae Frédéric Mistral, bardd Provençal. Oherwydd y diffyg cefnogaeth iddi gan Ffrainc, nid oes un iaith safonol ac mae chwe tafodiaith a chwe ffurf ysgrifenedig. Mae UNESCO yn ystyried pedair o'r tafodieithoedd hyn 'yn beryg enbyd o ddiflannu', ac wedi rhestru yn eu 'Rhestr Coch o Ieithoedd mewn Perygl'. Y bedair yw: Provençal, Auvergnat, Limousin and Languedocien. Ystyrir y ddwy arall, Gascon a Vivaro-Alpine 'mewn peryg'.

Siaradwch Ffrangeg - byddwch bur
(arwydd ar wal ysgol yng Ngwlad yr Oc)
  1. « De fait, le nombre des locuteurs de l’occitan a pu être estimé par l’INED dans un premier temps à 526 000 personnes, puis à 789 000, » ("Mewn gwirionedd, amcangyfrifodd y Sefydliad Demograffeg Ffrengig fod o bobl yn siarad Ocsitaneg 526,000, ac wedyn amcangyfrifodd y sefydliad fod tua 789,000 o bobl yn ei siarad") Philippe Martel, "Qui parle occitan ?" yn Langues et cité n°10, décembre 2007.
  2. Smith a Bergin. Old Provençal Primer, tud. 9.
  3. Fel nodir yn Statud Ymlywodraeth Catalwnia. Gw. erthygl 6.5 ar safle Parlament-cat.net Archifwyd 2013-08-26 yn y Peiriant Wayback., testun Statud Catalwnia 2006 (PDF)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search