Offeryn cerdd

Offerynnau cerdd yw pethau sy'n cael eu defnyddio i wneud cerddoriaeth.

Efallai mai'r ffurf gyntaf o gerddoriaeth oedd canu - defnyddio'r llais dynol ac mae defnyddioi'r corff - curo dwylo neu guro'r traed ar lawr i wneud rhythm yn hynafol iawn. Y datblygiad nesa fysai defnyddio pethau y darganfuwyd megis cyrn anifeiliaid neu foncyffion gwag. Dros amser, datblygwyd nifer helaeth o offerynnau gwahanol. Mae sŵn yn dod o awyr sy'n dirgrynu, ac mae offerynnau yn gweithio trwy reoli a helaethu'r dirgryniadau i wneud effaith ddymunol a phleserus.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search