Paleoanthropoleg

Arddangosfa o ffosiliau Hominid yn yr 'Amueddfa Osteoleg yn Ninas Oklahoma, UDA.

Mae Paleoanthropoleg (Saesneg: Paleoanthropology; o'r Hen Roeg: παλαιός (palaeos) "hen, hynafol", ἄνθρωπος (anthrōpos) "dyn, dynol" a'r ôl-ddodiad λογία (logia) "astudiaeth"), yn is-ddisgyblaeth (ac yn gyfuniad) o Paleontoleg ac anthropoleg ffisegol, ac yn astudiaeth o sut y ffurfiodd a sut y datblygodd nodweddion dynol. Mae'r maes yn cynnwys ail-greu llinell esblygiad y teulu Hominidae a'r berthynas rhyngddynt drwy astudio ffosiliau megis hen esgyrn, ysgerbydau, olion traed a thystiolaeth debyg o'r Hominidae: cartrefi, arteffactau, offer-llaw carreg ayb.[1][2][3]

Fel y mae technoleg yn datblygu, mae geneteg yn dod yn bwysicach oddi fewn i'r maes hwn, yn enwedig i gymharu strwythurau DNA, ac fel arf ymchwil i berthynas y gwahanol rywogaethau a genera.

  1. "Paleoanthropology". Gwasg Prifysgol Rhydychen. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-14. Cyrchwyd Hydref 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. "paleoanthropology". Dictionary com LLC. Cyrchwyd Hydref 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  3. "Paleoanthropology". New World Encyclopedia. Cyrchwyd 2 Hydref 2015. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search