Petroliwm

Ffynnon olew yng Nghanada; 2004
Prif gynhyrchwyr olew'r byd 1960-2006 - cyn Ffracio.
Y crofeydd olew sydd gan wledydd y byd wrth gefn, yn ôl y CIA
Y defnydd o olew gan wledydd y byd yn ôl 'NationMaster'; tywyll 0.07 casgen y dydd, golau - 0.0015 casgen y dydd y person
Y petroliwm a gynhyrchwyd yn Tecsas.

Tanwydd ffosil yw petroliwm neu olew crai sy'n cael ei echdynnu o'r ddaear mewn gwledydd ar draws y byd, ond yn enwedig yn y Dwyrain Canol, Unol Daleithiau America, Rwsia a Feneswela. Mae'n adnodd anadnewyddadwy a ddefnyddir i wneud petrol, plastig ayyb. Mae petroliwm yn hylif tew brown tywyll fel arfer, sy'n cynnwys cymysgedd cymhleth o hydrocarbonau fflamadwy. Caiff y petroliwm ei buro trwy broses o ddistyllu ffracsiynol.

Mae pris olew yn gallu effeithio ar economi gwledydd y byd. Yn 2008 cafwyd argyfwng ariannol byd-eang yn dilyn codiad sydyn ym mhris petroliwm. Yn ôl rhai, roedd olew hefyd wrth wraidd ymosodiad Iraq ar Kuwait yn Awst 1990, a'r Unol Daleithiau ar Iraq ychydig wedyn yn 1991 - enw ymgyrch filwrol Unol Daleithiau America yn 2003 oedd Operation Iraqi Liberation (OIL).[1] Cyfansoddodd y canwr protest David Rovics gân o'r enw "Operation Iraqi Liberation (OIL)" a ddaeth yn anthem i'r mudiad gwrth-ryfel.

  1. "Press Briefing by Ari Fleischer". The White House press release. 24 Mawrth 2003. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2006.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search