![]() | |
Math | dinas, dinas fawr, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Plymouth |
Poblogaeth | 267,918 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Budoc ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dyfnaint (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 79.29 km² ![]() |
Uwch y môr | 0 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Tamar ![]() |
Cyfesurynnau | 50.371389°N 4.142222°W ![]() |
Cod OS | SX477544 ![]() |
![]() | |
Dinas a phorthladd yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Plymouth[1] (Cernyweg (ac weithiau yn Gymraeg): Aberplym). Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dinas Plymouth, sy'n cael ei gweinyddu'n annibynnol o gyngor sir Dyfnaint.
Saif y ddinas ar Plymouth Sound rhwng aberoedd Afon Tamar ac Afon Plym. Oherwydd ei lleoliad mae yn borthladd o bwys ers canrifoedd, yn enwedig yn nhermau milwrol.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Plymouth boblogaeth o 234,982.[2]
Mae gwasanaeth fferi Brittany Ferries yn cysylltu Plymouth â Rosko yn Llydaw, ac mae hefyd wasanaeth fferi i Santander yn Sbaen.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search