Polisi tramor

Polisi cyhoeddus cenedlaethol yw polisi tramor sydd yn cynnwys strategaethau a lunir gan wladwriaeth sofran i ddiogelu a sicrháu buddiannau'r wlad ac i ennill ei hamcanion yng nghysylltiadau rhyngwladol. Mae'n ymwneud â sut mae gwladwriaethau yn gweithredu, adweithio, a rhyngweithio fel gweithredyddion ar y lwyfan ryngwladol. Mae polisi tramor yn stradlu dau amgylchedd: un mewnol, neu fewnwladol; ac un allanol, neu fyd-eang.[1]

Gan amlaf swydd pennaeth y llywodraeth a'r gweinidog neu ysgrifennydd tramor yw llunio polisi tramor. Mewn rhai gwledydd mae'r ddeddfwrfa genedlaethol yn cyfrannu'n sylweddol hefyd.

  1. Evans a Newnham, t. 179.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search