Priodas gyfunryw

Baner LGBT

Priodas rhwng dau berson o'r un rhyw a/neu hunaniaeth rhyw ydy priodas gyfunryw (a elwir hefyd yn priodas un-rhyw a phriodas hoyw). Cyfeirir weithiau at gydnabyddiaeth gyfreithiol o briodasau cyfunryw neu'r posibilrwydd o gynnal priodas gyfunryw fel cydraddoldeb priodas neu briodas gyfartal, yn benodol gan gefnogwyr.[1][2][3][4][5][6]

Daeth y deddfau modern cyntaf am briodasau cyfunryw i rym yn ystod y degawd cyntaf o'r 21g. Ers mis Mai 2013, mae 18 o wledydd (Yr Ariannin, Gwlad Belg, Brasil, Canada, Denmarc,[nb 1] Ffrainc, Gwlad yr Iâ, Yr Iseldiroedd,[nb 2], Lwcsembwrg, Norwy, Portiwgal, Sbaen, De Affrica, Sweden, Cymru a Lloegr, Seland Newydd[nb 3][7][8], Wrwgwái, Yr Alban a sawl awdurdodaeth is-genedlaethol (rhannau o Fecsico a'r Unol Daleithiau), yn caniatáu cyplau cyfunryw i briodi. Mae mesurau sy'n amlinellu cydnabyddiaeth gyfreithlon o briodasau cyfunryw wedi cael eu cyflwyno, dan ystyriaeth, neu wedi eu llwyddo o leiaf un tŷ deddfwriaethol yn Andorra, y Ffindir, Yr Almaen, Iwerddon, Nepal a Taiwan, yn ogystal â rhannau o Awstralia, Mecsico, a'r Unol Daleithiau.

Mae'r cyflwyniad o ddeddfau priodasau cyfunryw yn amrywio rhwng awdurdodaethau, yn cael eu cyflawni gan newid deddfwriaethol i gyfreithiau priodi, dyfarniad llys sy'n seiliedig ar warantau cyfansoddiadol o gydraddoldeb, neu gan bleidlais (drwy fenter bleidlais neu refferendwm). Mae cydnabod priodasau cyfunryw yn fater gwleidyddol, cymdeithasol hawliau dynol a hawliau sifil, yn ogystal â bod yn fater crefyddol mewn llawer o wledydd ar draws y byd, ac mae trafodaethau yn parhau i godi ynghylch priodasau cyfunryw, yr angen i ddal statws gwahanol (uniad sifil), neu gael gwrthod o gydnabyddiaeth hawliau o'r fath. Ystyrir y gallu i ganiatáu i gyplau cyfunryw i briodi'n gyfreithlon yn un o'r hawliau LHDT pwysicaf.

Gellir cynnal priodasau cyfunryw mewn seremoni sifil neu seciwlar neu mewn sefyllfa grefyddol. Mae crefyddau amrywiol ar draws y byd yn cefnogi priodasau cyfunryw; er enghraifft: Crynwyr, yr Eglwys Esgobaethol, yr Eglwys Gymunedol Fetropolitan, Eglwys Unedig Crist, Eglwys Unedig Canada, Bwdhaeth yn Awstralia, Iddewon Diwygiedig a Cheidwadol, Wiciaid a Phaganiaid, Derwyddon, Cyfanfydwyr Undodaidd, a chrefyddau Americanwyr Brodorol sydd â thraddodiad dau-enaid, yn ogystal â gwahanol grwpiau Cristnogol, Mwslimaidd, Hindŵ, a Bwdhaidd blaengar a modern, a grwpiau Iddewig ac amryw fân grefyddau ac enwadau eraill.

Mae astudiaethau a gynhaliwyd mewn nifer o wledydd yn dangos bod cefnogaeth i gydnabyddiaeth gyfreithiol ar gyfer priodasau cyfrunryw yn cynyddu gyda lefelau uwch o addysg a bod y gefnogaeth yn gryfach ymhlith pobl iau. Yn ogystal, mae polau piniwn mewn gwahanol wledydd yn dangos bod cefnogaeth gynyddol i gydnabyddiaeth gyfreithiol am briodasau cyfunryw ar draws bob hil, ethnigrwydd, oed, crefydd, cysylltiadau gwleidyddol, statws economaidd-gymdeithasol, ac ati.[9][10]

  1. Pratt, Patricia (29 May 2012). "Albany area real estate and the Marriage Equality Act". Albany, NY. Albany Examiner. Cyrchwyd 25 December 2012. On July 24, 2011 the Marriage Equality Act became a law in New York State forever changing the state's legal view of what a married couple is.
  2. Kefalas, Chrysovalantis P. (28 October 2012). "Marriage equality and the golden rule". The Washington Post. |access-date= requires |url= (help)
  3. "Vote on Illinois marriage equality bill coming in January: sponsors". Chicago Phoenix. 13 December 2012. Cyrchwyd 23 December 2012.
  4. "Commission endorses marriage and adoption equality". Human Right Commission New Zealand. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-02. Cyrchwyd 23 December 2012.
  5. Mulholland, Helene (27 September 2012). "Ed Miliband calls for gay marriage equality". The Guardian. London. Cyrchwyd 23 December 2012.
  6. Ring, Trudy (December 2012). "Newt Gingrich: Marriage Equality Inevitable, OK". The Advocate. http://www.advocate.com/politics/marriage-equality/2012/12/20/newt-gingrich-accepts-marriage-equality-inevitable. "He [Newt Gingrich] noted to HuffPo that he not only has a lesbian half-sister, LGBT rights activist Candace Gingrich, but has gay friends who've gotten married in Iowa, where their unions are legal. Public opinion has shifted in favor of marriage equality, he said, and the Republican Party could end up on the wrong side of history if it continues to go against the tide."
  7. "Desde el 1° de agosto se podrán celebrar matrimonios gay". El Pais (yn Spanish). 6 May 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-29. Cyrchwyd 2013-06-15. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. "August 19 wedding date for same-sex couples". 3 News NZ. 23 April 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-22. Cyrchwyd 2013-06-15.
  9. Gweler
  10. Shapiro, Lila (8 June 2012). "Same-Sex Marriage Support Growing In New Poll, Experts Say Personal Knowledge Of Gays May Play Role". Huffington Post. Cyrchwyd 28 September 2012.


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "nb", ond ni ellir canfod y tag <references group="nb"/>


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search