![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson, gradd, grŵp paraffyletig ![]() |
---|---|
Math | organeb byw ![]() |
Safle tacson | teyrnas ![]() |
Rhiant dacson | Ewcaryot ![]() |
Dechrau/Sefydlu | Mileniwm 2101. CC ![]() |
![]() |
Protistiaid | |
---|---|
![]() | |
Paramecium | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Parth: | Eukarya |
Teyrnas: | Protista Haeckel, 1866 |
Ffyla | |
llawer, mae dosbarthiad y protistiaid yn amrywio |
Grŵp amrywiol o bethau byw yw'r protistiaid. Maent yn cynnwys yr ewcaryotau i gyd nad ydynt yn aelodau o'r grŵp planhigion, anifeiliaid neu ffyngau. Er ei bod yn debygol eu bod yn rhannu hynafiad cyffredin, dydy'r grwpiau o brotistiaid ddim yn perthyn yn agos i'w gilydd ac fe'u rhennir yn aml yn nifer o deyrnasoedd gwahanol; nid ydyn nhw'n ffurfio grŵp naturiol, neu gytras. Mae'r mwyafrif o brotistiaid yn ungellog. Felly, gall rhai protistiaid fod yn perthyn yn agosach at anifeiliaid, planhigion, neu ffyngau nag y maent i brotistiaid eraill. Fodd bynnag, fel y grwpiau algâu, infertebratau, a phrotosoaid, defnyddir y categori protist biolegol er hwylustod. Mae eraill yn dosbarthu unrhyw ficro-organeb ewcaryotig ungellog fel protist.[1] Protistoleg yw'r enw ar yr astudiaeth o brotistiaid.[2]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search