Damcaniaeth athronyddol sy'n dibynnu ar reswm fel ffynhonnell gwybodaeth yw rhesymoliaeth[1][2] neu resymoleg.[3] Cafodd yr athrawiaeth epistemolegol hon ei datblygu gan athronwyr Ewropeaidd yn ystod yr Oleuedigaeth.[4] Gan amlaf caiff rhesymoliaeth ei chyferbynnu ag empiriaeth.[5]
Yn ôl y safbwynt rhesymolaidd, mae gan realiti strwythur resymegol a cheir gwirioneddau y gellir eu deall yn union gan y meddwl.[6]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search