Mae rhif dychmygol yn rhif cymhlyg y gellir ei sgwennu fel rhif real, a'i luosi gyda'r uned ddychmygol i,[1] a gaiff ei ddiffinio gan ei nodwedd i2 = −1.[2] Sgwâr (pwer 2) unrhyw rif dychmygol bi yw −b2. Er enghraifft, mae 5i yn rhif dychmygol, a'i sgwâr yw −25. Caif sero ei gyfri'n real ac yn ddychmygol.[3]
Bathwyd y term yn y 17g, gydag ystyr eang iawn, e.e. am berson gwamal, da i ddim, ond nid oedd yn cyfeirio at y nodwedd fathemategol tan ddyddiau Leonhard Euler (1707 – 1783) a Carl Friedrich Gauss (1777 – 1855).
Gellir ychwanegu rhif dychmygol bi at rhif real a i ffurffio rhif cymhlyg a + bi, lle mae'r rhifau real a a b yn cael eu galw'n "rhan real" a "rhan ddychmygol" y rhif cymhlyg.[4] Mae'r ddwy ran yn cael eu diffinio fel rhifau real. Defnyddir hefyd y term "rhif dychmygol pur".[5]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search