Priodoledd ddaionus neu nodwedd ragorol, yn enwedig o safbwynt moesegol neu ddiwinyddol, yw rhinwedd.[1] Roedd syniad y bywyd rhinweddol yn sail i ddamcaniaeth foesol Aristotlys, ac mae ffurfiau ar foeseg rinweddol yn ddylanwadol hyd heddiw. Yn y traddodiad athronyddol a chrefyddol Ewropeaidd, ceir y pedair prif rinwedd sy'n tarddu o'r hen Roegiaid: pwyll, cyfiawnder, dirwest a chryfder neu nerth enaid. Sonir Cristnogion am dair rinwedd ychwanegol – ffydd, gobaith a chariad – gan ffurfio'r saith rinwedd a gyferbynnir â'r saith pechod marwol.[2] Ym maes athroniaeth wleidyddol, sonir am y rhinwedd ddinesig: yr agwedd a'r tymer sy'n addas wrth weithredu'r drefn wleidyddol yn effeithiol.[3]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search