Rhwymedd

Y stâd o fethu ysgarthu ydy rhwymedd (Saesneg: constipation). Mae hyn yn digwydd o fewn y system dreulio, yn benodol yn y coluddyn bach. Gall gor-wthio greu problemau megis clwy'r marchogion. Mae hyn yn digwydd, fel arfer gan fod y colon wedi amsugno gormod o ddŵr, gan adael yr ysgarthion (neu 'gachu' ar lafar) yn sych ac yn galed. Mae hyn yn digwydd fel arfer pan fo'r bwyd yn teithio yn rhy araf.

Y broblem waelodol, fel arfer, yw naill ai afiechyd neu ddiet gwael.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search