Math | tref sirol, tref goleg, ardal ddi-blwyf, dinas |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Rhydychen |
Poblogaeth | 152,000, 137,000, 147,500, 108,600 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Frithuswith |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Rydychen (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 45.59 km² |
Gerllaw | Afon Tafwys, Afon Cherwell |
Yn ffinio gyda | Banbury |
Cyfesurynnau | 51.75°N 1.26°W |
Cod post | OX1, OX2, OX3, OX4, OX33, OX44, OX postcode area |
GB-OXF | |
Dinas yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, yw Rhydychen (Saesneg: Oxford, hen enw Oxenaford).[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dinas Rhydychen. Hi yw tref sirol Swydd Rydychen.
Yng nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 134,248.
Llifa Afon Cherwell ac Afon Tafwys drwy ganol Rhydychen gan gyfarfod i'r de o ganol y ddinas. Fodd bynnag, yn Rhydychen ac am tua 10 milltir (16 km) a'r ardal gyfagos, gelwir Afon Tafwys yn "Isis".
Saif sy tua 60 milltir i'r gogledd-orllewin o Lundain.
Mae gan y ddinas ddwy brifysgol. Prifysgol Rhydychen yw'r brifysgol hynaf yn Lloegr; ymhlith y Cymry fu yno oedd Owain Glyndŵr ac O. M. Edwards. Mae Prifysgol Brookes (Oxford Polytechnic yn gynt) yna hefyd. Mae'r diwydiant ceir yn bwysig i'r economi lleol — cynhyrchir y BMW Mini yn Cowley yn ne-ddwyrain y ddinas — ond lleihawyd y cynnyrch ers y 1970au.
Mae hanes Rhydychen yn estyn yn ôl i gyfnod y Sacsoniaid. Ganwyd John, brenin Lloegr, yn Rhydychen. Defnyddiodd Brenin Siarl I Rydychen fel ei lys yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.
Mae'r adeiladau yn Rhydychen yn adlewyrchu pob cyfnod pensaernïol yn hanes Lloegr ers dyfodiad y Sacsoniaid, gan gynnwys y Radcliffe Camera o ganol y 18g. Mae adeilad hynaf y ddinas, sef eglwys Mihangel Sant, yn dyddio o 1040. Adnabyddir Rhydychen fel y "city of dreaming spires", term a fathwyd gan y bardd Matthew Arnold i ddisgrifio pensaernïaeth adeiladau prifysgol Rhydychen.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search