Rhywedd anneuaidd

Y faner anneuaidd

Mae anneuaidd[1] (ceir hefyd y sillafiad aneuaidd[angen ffynhonnell]) neu genderqueer yn derm mantell sy'n disgrifio hunaniaethau rhywedd nad ydynt yn wrywaidd na fenywaidd—hunaniaethau sydd y tu allan i'r system rhywedd ddeuaidd.[2][3] Mae hunaniaethau anneuaidd yn dod o dan ymbarél trawsrywedd, gan fod pobl anneuaidd fel arfer yn uniaethu â rhywedd sy'n wahanol i'r rhyw a bennwyd adeg eu genedigaeth,[3] er nad yw rhai pobl anneuaidd yn ystyried eu hunain yn drawsryweddol.[4] Mae enby (o'r talfyriad Saesneg 'NB') yn enw arall ar gyfer anneuaidd.[5]

Symbol trawsryweddol
Symbol trawsryweddol
Trawsrywedd
Hunaniaethau
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd
Pynciau
Cwestiynu · Trawsrywioldeb
Agweddau clinigol a meddygol
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Rhestrau
Pobl
Categori
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Gall fod gan bobl anneuaidd ddau neu dri hunaniaeth rhywedd (bod yn ddeuryweddol neu'n drirhyweddol);[6][7] neu heb rywedd (anrhywedd - agender, di-rywedd - non-gendered); gallant symud rhwng ryweddau neu fod â hunaniaeth rhywedd sy'n newid (rhywedd-hylif[angen ffynhonnell] - genderfluid);[8] gallant fod â huniaeth trydydd rhywedd neu wedi'u rhyweddu'n arall[angen ffynhonnell] (categori sy'n cynnwys y rheini nad ydynt yn rhoi enw i'w rhywedd).[9]

Mae hunaniaeth rhywedd yn wahanol i gyfeiriadedd rhywiol neu ramantaidd,[10] ac mae gan bobl anneuaidd amrywiaeth o gyfeiriadedd rhywiol, yn union fel pobl gydryweddol (cis).[11]

Nid yw hunaniaethau rhywedd anneuaidd yn gysylltiedig â mynegiant rhywedd penodol, megis androgynedd. Mae gan bobl anneuaidd fel grŵp amrywiaeth eang o fynegiannau rhywedd, a gall rhai wrthod "hunaniaethau" rhywedd yn gyfan gwbl.[12] Mae rhai pobl anneuaidd yn cael triniaeth feddygol ar gyfer dysfforia rhywedd gyda llawdriniaeth neu hormonau, yn debyg i ddynion traws a menywod traws.

  1. "Geirfa Hunaniaeth o ran Rhywedd/Termau Traws". Prifysgol De Cymru. Cyrchwyd 25 Mehefin 2024.
  2. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw richardsetal
  3. 3.0 3.1 "Supporting & Caring for Transgender Children" (PDF) (yn Saesneg). Ymgyrch Hawliau Dynol. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-07-24. Cyrchwyd 8 Ebrill 2021.
  4. "Trans + Gender Identity". The Trevor Project (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2018. Cyrchwyd Hydref 11, 2019.
  5. Bergman, S. Bear; Barker, Meg-John (2017). "Non-binary Activism". In Richards, Christina; Bouman, Walter Pierre; Barker, Meg-John (gol.). Genderqueer and Non-Binary Genders. Critical and Applied Approaches in Sexuality, Gender and Identity (yn Saesneg). Palgrave Macmillan. t. 43. ISBN 978-1-137-51052-5.
  6. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Bosson-2018
  7. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Whyte
  8. Winter, Claire Ruth (2010). Understanding Transgender Diversity: A Sensible Explanation of Sexual and Gender Identities (yn Saesneg). Scotts Valley, California: CreateSpace. ISBN 978-1-4563-1490-3. OCLC 703235508.
  9. Beemyn, Brett Genny (2008). "Genderqueer". glbtq: An Encyclopedia of Gay, Lesbian, Bisexual, Transgender, and Queer Culture (yn Saesneg). Chicago, Illinois: glbtq, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 April 2012. Cyrchwyd 3 May 2012.
  10. "Transgender Glossary of Terms". GLAAD Media Reference Guide (yn Saesneg). Gay & Lesbian Alliance Against Defamation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 June 2012. Cyrchwyd 25 May 2011.
  11. Stryker, Susan (2008). Transgender History (yn Saesneg). Berkeley, California: Seal Press. ISBN 978-1-58005-224-5. OCLC 183914566.
  12. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Schorn

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search