Rishi Sunak

Y Gwir Anrhydeddus
Rishi Sunak
MP
Llun o Rishi Sunak
Llun swyddogol, 2022
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
Mewn swydd
25 Hydref 2022 – 5 Gorffennaf 2024
TeyrnSiarl III
Dirprwy
Rhagflaenwyd ganLiz Truss
Dilynwyd ganKeir Starmer
Arweinydd yr Wrthblaid
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Gorffennaf 2024
TeyrnSiarl III
Prif WeinidogKeir Starmer
DirprwyOliver Dowden
Rhagflaenwyd ganKeir Starmer
Arweinydd y Blaid Geidwadol
Deiliad
Cychwyn y swydd
24 Hydref 2022
Rhagflaenwyd ganLiz Truss
Canghellor y Trysorlys
Mewn swydd
13 Chwefror 2020 – 5 Gorffennaf 2022
Prif WeinidogBoris Johnson
Rhagflaenwyd ganSajid Javid
Dilynwyd ganNadhim Zahawi
Prif Ysgrifennydd y Trysorlys
Mewn swydd
24 Gorffennaf 2019 – 13 Chwefror 2020
Prif WeinidogBoris Johnson
Rhagflaenwyd ganLiz Truss
Dilynwyd ganSteve Barclay
Is-Ysgrifennydd gwladol seneddol
ar gyfer Llywodraeth Leol
Mewn swydd
9 Ionawr 2018 – 24 Gorffennaf 2019
Prif WeinidogTheresa May
Rhagflaenwyd ganMarcus Jones
Dilynwyd ganJake Berry
Aelod o Senedd
dros Richmond a Northallerton
Deiliad
Cychwyn y swydd
7 Mai 2015
Rhagflaenwyd ganWilliam Hague
Mwyafrif12,185 (25.1%)
Manylion personol
GanedRishi Sunak
(1980-05-12) 12 Mai 1980 (44 oed)
Southampton, Hampshire, Lloegr
Plaid gwleidyddolCeidwadwyr
PriodAkshata Murty (pr. 2009)
Plant2
AddysgColeg Winchester
Alma mater
Gwefanrishisunak.com

Gwleidydd o Sais yw Rishi Sunak (ganwyd 12 Mai 1980) a fu'n brif weinidog y Deyrnas Unedig ac arweinydd y Blaid Geidwadol rhwng Hydref 2022 a Gorffennaf 2024.[1] Roedd yn Ganghellor Trysorlys y Deyrnas Unedig rhwng Chwefror 2020 a Gorffennaf 2022.[2]

Cafodd Sunak ei eni yn Southampton,[3] yn fab hynaf i Yashvir ac Usha Sunak. Roedd ei dad Yashvir yn feddyg a'i fam Usha yn fferyllydd.[4][5][6] Cafodd ei addysg yng Ngholeg Caerwynt ac yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen. Priododd Akshata Murthy yn 2009.

Fe'i ddewiswyd fel ymgeisydd y Blaid Geidwadol dros etholaeth Richmond (Swydd Efrog) yn Hydref 2014, cyn sedd William Hague ac un o'r cadarnaf i'r Ceidwadwyr yng ngwledydd Prydain. Fe'i etholwyd fel Aelod Seneddol yn etholiad cyffredinol 2015. Daeth yn Ganghellor y Trysorlys yng nghabinet Boris Johnson ar 13 Chwefror 2020.

Ymddiswyddodd fel Canghellor ar 5 Gorffennaf 2022, yn dilyn ffrae am ymddygiad yr aelod seneddol Chris Pincher. Yn ei lythyr ymddiswyddo dywedodd ei fod yn anghytuno gyda'r Prif Weinidog, Boris Johnson, ar sut i ddelio gyda'r economi.[2]

  1. "Araith gyntaf Keir Starmer fel Prif Weinidog: 'Y wlad yn gyntaf, y blaid yn ail'". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-05. Cyrchwyd 2024-07-05.
  2. 2.0 2.1 Rishi Sunak a Sajid Javid yn gadael cabinet Llywodraeth y DU , BBC Cymru Fyw, 5 Gorffennaf 2022.
  3. Espiner, Tom (13 February 2020). "Who is the new chancellor Rishi Sunak?". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 February 2020. Cyrchwyd 13 February 2020.
  4. "Sunak, Rt Hon. Rishi (born 12 May 1980)". A & C Black. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2020. Cyrchwyd 1 Hydref 2019.
  5. Gunn, Simon; Bell, Rachel (16 June 2011). Middle Classes: Their Rise and Sprawl. Orion. t. 109. ISBN 978-1-78022-073-4.
  6. "Rishi Sunak". Eastern Eye. Cyrchwyd 1 Hydref 2019.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search