Roger Federer

Roger Federer
Gwlad Baner Y Swistir Y Swistir
Cartref Wollerau, y Swistir
Dyddiad Geni (1981-08-08) 8 Awst 1981 (42 oed)
Lleoliad Geni Binningen, y Swistir
Taldra 1.85 m
Pwysau 85 kg
Aeth yn broffesiynol 1998
Ffurf chwarae Dde; Gwrthlaw unlaw
Arian Gwobr Gyrfa $123,468,993
Senglau
Record Gyrfa: 1200–263 (82.02%)
Teitlau Gyrfa: 101
Safle uchaf: 1 (2 Chwefror 2004)
Canlyniadau'r Gamp Lawn
Agored Awstralia enillwr (2004, 2006, 2007, 2010, 2017, 2018)
Agored Ffrainc enillwr (2009)
Wimbledon enillwr (2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2009, 2012, 2017)
Agored yr UD enillwr (2004, 2005, 2006, 2007, 2008)
Parau
Record Gyrfa: 129-89
Teitlau Gyrfa: 8
Safle uchaf: 24 (9 Mehefin 2003)

Gwybodlen wedi'i diweddaru diwethaf ar: 5 Mai 2019.

Chwaraewr tenis o'r Swistir, yw Roger Federer (/ˈɹɑ.dʒər ˈfɛ.dər.ər/) (ganwyd 8 Awst, 1981). Cred llawer y gall fod y chwaraewr gorau erioed.[1][2][3][4][5]

Mae wedi ennill 20 teitl Camp Lawn sengl, 6 teitl Cwpan y Meistri Tenis, a 28 o deitlau Cyfres y Meistri ATP. Yn 2004, ef oedd y cyntaf ers Mats Wilander yn 1988 i ennill y pedwar twrnamaint sengl Camp Lawn i ddynion yn yr un flwyddyn: Pencampwriaeth Agored Awstralia, Wimbledon, Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau a Pencampwriaeth Agored Ffrainc. Yn 2006, ailadroddodd y gamp hon, a'r unig ddyn erioed i ailadrodd y gamp yma a'r dyn cyntaf yn yr oes agored i ennill o leiaf deg pencampwriaeth sengl dair blynedd yn ddilynol (2004 i 2006).[6] Ef hefyd yw'r unig chwaraewr sydd wedi ennill teitlau senglau Wimbledon a Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau dair mlynedd yn ddilynol (2004 i 2006). Yn 2007, pan enillodd Federer ei drydedd teitl Pencampwriaeth Agored Awstralia, daeth yn unig chwaraewr gwrywaidd i ennill tri thrnamaint Camp Lawn ar wahân tair gwaith.

Mae Federer wedi dal safle uchaf chwaraewyr dethol y byd ers 2 Chwefror, 2004, ac yn dal y record am y mwyaf o wythnosau dilynol fel y chwaraewr gwrywol gyda'r safle uchaf.[7] Ar 2 Ebrill, 2007, cafodd ei enwi fel Chwaraewr Byd-eang Laureus y Flwyddyn am drydedd dro dilynol, sef record. Ar 8 Gorffennaf, 2012, enillodd Wimbledon am y saithfed tro, ac felly daeth i ddal record hafal â Pete Sampras.

  1. (Saesneg) Roddick: Federer might be greatest ever. The Associated Press (3 Gorffennaf, 2005). Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  2. (Saesneg) Federer inspires comparisons to all-time greats. The Associated Press (12 Medi, 2004). Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  3. (Saesneg) 4-In-A-Row For Federer. The Associated Press (9 Gorffennaf, 2006). Adalwyd ar 29 Mehefin.
  4. (Saesneg) Sarkar, Pritha (4 Gorffennaf, 2005). Greatness beckons Federer. Reuters. Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  5. (Saesneg) Collins, Bud (3 Gorffennaf, 2005). Federer Simply In a League of His Own. Gwefan MSNBC. MSNBC.COM. Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  6. (Saesneg) Kim, Alison (12 Tachwedd, 2006). Dominance at No. 1. ATP Tennis Weekly. ATPtennis.com. Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.
  7. (Saesneg) Federer, Roger (26 Chwefror, 2007). ATP - 161 Weeks: Competing With History. Adalwyd ar 29 Mehefin, 2007.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search