Roppongi

Bryniau Roppongi.

Ardal ym Minato, Tokyo, Japan, yw Roppongi. Mae'n ardal gefnog ac yn gartref i sîn bywyd nos bywiog. Lleolir nifer o lysgenadaethau tramor yn Roppongi ac mae'r bywyd nos a geir yno yn boblogaidd gyda gorllewinwyr; serch hynny mae'r mwyafrif llethol o drigolion Roppongi a'r ymwelwyr a'r ardal yn Japaneaidd neu'n bobl eraill o Asia. Lleolir Roppongi yn ardal ddeheuol y cylch a ddisgrifio gan y Yamanote Line, i'r de o Akasaka ac i'r gogledd o Azabu.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search