Seoul

Seoul
Mathdinas arbennig De Corea, dinas fawr, dinas, mega-ddinas, metropolis, y ddinas fwyaf, prifddinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlprifddinas Edit this on Wikidata
PrifddinasJung District Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,668,465 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 Mehefin 1395 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethOh Se-hoon Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Coreeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSeoul Fwyaf Edit this on Wikidata
GwladBaner De Corea De Corea
Arwynebedd605.25 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr38 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Han, Cheonggye River, Jungnangcheon, Anyangcheon, Tancheon, Yangjaecheon Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTalaith Gyeonggi, Incheon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.56°N 126.99°E Edit this on Wikidata
KR-11 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Fetropolitan Seoul Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor trefol Seoul Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Seoul Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethOh Se-hoon Edit this on Wikidata
Map

Seoul (Coreeg: 서울) yw prifddinas De Corea a'r ddinas fwyaf yn y wlad, gyda phoblogaeth o dros 9,668,465 (2020)[1] ac mae gan Seoul Fwyaf boblogaeth o 24,105,000 (2016)[2].

Saif y ddinas yn nalgych Afon Han yng ngogledd-orllewin y wlad, tua 50 km i'r de o'r ffîn a Gogledd Corea. Ceir y cofnod cyntaf amdani yn 18 CC, pan sefydlodd teyrnas Baekje ei phrifddinas Wiryeseong yn yr hyn sy'n awr yn dde-ddwyrain Seoul. Tyfodd dinas Seoul ei hun o ddinas Namgyeong. Saif y ddinas yn Ardal Prifddinas Genedlaethol Seoul, sydd hefyd yn cynnwys porthladd Incheon a llawer o faestrefi, ac sydd a phoblogaeth o tua 23 miliwn. Mae bron hanner poblogaeth De Corea yn byw yn yr ardal yma.

Yn 2014, dinas Seoul oedd y 4edd dinas fetropolitan fwyaf ei heconomi yn y byd ar ôl Tokyo, Efrog Newydd a Los Angeles.[3] Yn 2017, roedd costau byw yn y ddinas y 6ed uchaf yn y byd.[4][5] Gyda chanolfannau technoleg enfawr wedi eu canoli yn Gangnam a'r Ddinas Cyfryngau Digidol, mae Seoul Fwyaf yn gartref i bencadlys 14 o gwmniau mwya'r byd, sef y Fortune Global 500, gan gynnwys Samsung, LG, a Hyundai.[6][7]

Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yma yn 1988 a gêm derfynol Cwpan y Byd Pêl-droed 2002; yma hefyd oedd cynhadledd y G-20 yn 2010.

Wedi'i lleoli'n strategol ar hyd glannau Afon Han, mae hanes y ddinas yn ymestyn yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd, ers ei sefydlu yn 18 CC gan bobl Baekje, un o Dair Teyrnas Corea. Yn 1394 dynodwyd y ddinas yn brifddinas Corea o dan y Brenhinllin Joseon (1392-1897), ac yn 1948 yn brifddinas De Corea. Amgylchynir y ddinas gan ardal fynyddig a bryniog, gyda Mynydd Bukhan ar ymyl ogleddol y ddinas. Mae gan Seoul Fwyaf (neu weithiau 'Ardal Prifddinas Seoul') bum Safle Treftadaeth y Byd UNESCO: Changdeok Palace, Caer Hwaseong, Cysegrfa Jongmyo, Namhansanseong a Beddrodau Brenhinol y Brenhinllin Joseon.[8]

  1. "행정구역(읍면동)별/5세별 주민등록인구(2011년~)".
  2. http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
  3. "The World According to GaWC 2020". GaWC - Research Network. Globalization and World Cities. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Awst 2020. Cyrchwyd 26 Awst 2020.
  4. Solutions, EIU digital. "Worldwide Cost of Living 2017 – The Economist Intelligence Unit". www.eiu.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2017. Cyrchwyd 13 Hydref 2017.
  5. Sustainable Cities Index, 2015 Archifwyd 30 August 2016[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.. Arcadis.
  6. "Tech capitals of the world". The Age. Melbourne. 2009-06-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Medi 2009. Cyrchwyd 2013-08-07.
  7. "Samsung Electronics". Fortune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Hydref 2014. Cyrchwyd 24 Hydref 2014.
  8. "Lists: Republic of Korea". UNESCO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2019.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search