Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig

Siarl III
Pennaeth y Gymanwlad
Siarl III yn 2023
Brenin y Deyrnas Unedig
ac eraill teyrnasoedd y Gymanwlad
8 Medi 2022 – presennol
Coronwyd6 Mai 2023
RhagflaenyddElisabeth II
EtifeddWiliam, Tywysog Cymru
GanwydY Tywysog Siarl o Caeredin
(1948-11-14) 14 Tachwedd 1948 (75 oed)
Palas Buckingham, Llundain, Lloegr
Priod
Plant
Enw llawn
Charles Philip Arthur George
TeuluWindsor
TadY Tywysog Philip, Dug Caeredin
MamElisabeth II
CrefyddProtestannaidd

Brenin y Deyrnas Unedig a 14 teyrnas arall y Gymanwlad yw Siarl III (Charles Philip Arthur George; ganwyd 14 Tachwedd 1948).[1][2] Roedd wedi bod yn etifedd eglur am y mwyafrif helaeth o'i fywyd pan ddaeth yn frenin yn 73 oed yn 2022, wedi marwolaeth ei fam Elisabeth II.

Cafodd ei eni ym Mhalas Buckingham, gyda'r teitl Y Tywysog Siarl o Gaeredin. Fe'i wnaed yn Dywysog Cymru yn 1958.

Gelwir ef yng Nghymru yn aml yn Carlo, ar ôl cân enwog Dafydd Iwan o'r un enw, a oedd yn boblogaidd iawn yng Nghymru adeg ei arwisgo yn 1969.

Daeth ei arwisgo yn fater gwleidyddol a dadleuol iawn. Roedd twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn wrth drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969. Roedd y genhedlaeth ifanc o genedlaetholwyr yn gweld hyn yn sarhâd ar Gymru ac ar yr iaith.[3]

Bu George Thomas yn ddigon cyfrwys i gael y tywysog yn fyfyriwr yng ngholeg Aberystwyth am dri mis i ddysgu'r Gymraeg. Ond pan ymwelodd Charles ag Eisteddfod yr Urdd a gwneud ei araith yn Gymraeg protestiodd nifer o'r bobl ifanc a cherdded allan. Cynhaliwyd rali enfawr yn erbyn yr arwisgo yng Nghilmeri.

Cafodd Siarl a'i ail gwraig Camilla eu seremoni i goroni ar 6 Mai 2023 yn Llundain.

Yn 2024, ar ôl arhosiad byr yn yr ysbyty, cyhoeddwyd bod gan Siarl ganser. Dwedodd y Palas ei fod "yn parhau'n hollol bositif ynghylch ei driniaeth ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus llawn cyn gynted â phosib".[4]

  1. Y Brenin Charles III i annerch y DU am y tro cyntaf , BBC Cymru Fyw, 9 Medi 2022.
  2. 'Y Brenin Charles, nid Siarl, yn swyddogol yn Gymraeg' , BBC Cymru Fyw, 2 Tachwedd 2022.
  3. Dafydd Iwan yn cwrdd â'r Tywysog Charles am y tro cyntaf , BBC Cymru Fyw, 6 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd ar 9 Medi 2022.
  4. "Y Brenin Charles wedi cael diagnosis canser". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 6 Chwefror 2024.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search