![]() | |
Republika Slovenija | |
![]() | |
Arwyddair | I feel SLOVEnia ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gwlad, unitary parliamentary republic ![]() |
Prifddinas | Ljubljana ![]() |
Poblogaeth | 2,066,880 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Anthem genedlaethol Slofenia ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Robert Golob ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Slofeneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canolbarth Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, gwladwriaethau ôl-Iwgoslafia ![]() |
Arwynebedd | 20,271 km² ![]() |
Gerllaw | Môr Adria, Y Môr Canoldir ![]() |
Yn ffinio gyda | yr Eidal, Awstria, Croatia, Hwngari ![]() |
Cyfesurynnau | 46°N 15°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Slofenia ![]() |
Corff deddfwriaethol | Senedd Slofenia ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Slofenia ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Nataša Pirc Musar ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Slofenia ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Robert Golob ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $62,118 million ![]() |
Arian | Ewro ![]() |
Canran y diwaith | 10 ±1 canran ![]() |
Cyfartaledd plant | 1.55 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.918 ![]() |
Gwlad sofran yn ne Canolbarth Ewrop yw Slofenia [1][2] (Slofeneg: Republika Slovenija[3]; sef Gweriniaeth Slofenia). Mae'n ffinio gyda'r Eidal i'r gorllewin, Awstria i'r gogledd, Hwngari i'r gogledd-ddwyrain, Croatia i'r de a'r de-ddwyrain, ac arfordir byr o'r Môr Adriatig i'r de-orllewin.[4] Mae Slofenia'n wlad fynyddig, coediog ar y cyfan,[5] gydag arwynebedd tebyg i Gymru, sef 20,272 cilometr sg[6] a phoblogaeth llawer llai na Chymru, sef 2,066,880 (1 Ionawr 2018)[7][8][9]. Slofeneg, un o'r ieithoedd De Slafaidd, yw'r iaith swyddogol.[10] Ar y 26 Rhagfyr, mae'n dathlu ei Diwrnod Annibyniaeth, i nodi'r Refferendwm dros Annibyniaeth a gafodd yn 1990.
Mae gan Slofenia hinsawdd gyfandirol dymherus yn bennaf,[11] ac eithrio'r Primorska a'r Julijske Alpe (yr Alpau Julian). Cyrhaedda hinsawdd is-ganoldirol rhanau gogleddol yr Alpau Dinarig sy'n croesi'r wlad i gyfeiriad gogledd-orllewin a'r de-ddwyrain. Mae gan Alpau Julian yn y gogledd-orllewin hinsawdd alpaidd.[12] Tua'r Basn Pannonaidd gogledd-ddwyreiniol, mae hinsawdd gyfandirol yn fwy amlwg. Ljubljana yw'r prifddinas a dinas fwyaf Slofenia, wedi'i lleoli'n ddaearyddol ger canol y wlad.[13]
Yn hanesyddol mae Slofenia wedi bod yn groesffordd i ieithoedd a diwylliannau Slafaidd, Germanaidd a Romáwns.[14] Mae ei diriogaeth wedi bod yn rhan o lawer o wahanol wladwriaethau: yr Ymerodraeth Rufeinig, yr Ymerodraeth Fysantaidd, yr Ymerodraeth Carolingaidd, Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, Teyrnas Hwngari, Gweriniaeth Fenis, y Rhanbarthau Illyraidd Ymerodraeth Ffrainc Gyntaf Napoleon, Ymerodraeth Awstria, ac Ymerodraeth Awstro-Hwngari.[4] Yn Hydref 1918, cyd-sefydlodd y Slofeniaid Wladwriaeth Slofenia, Croatia a Serbia.[15] Yn Rhagfyr 1918, fe wnaethon nhw uno gyda Theyrnas Serbia o fewn Teyrnas Iwgoslafia.[16] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannodd yr Almaen, yr Eidal, a Hwngari Slofenia, a throsglwyddwyd ardal fechan i Dalaith Annibynnol Croatia a oedd newydd gael ei datgan yn wladwriaeth byped Natsïaidd.[17] Ym 1945, daeth yn rhan o Iwgoslafia eto. Ar ôl y rhyfel, roedd Iwgoslafia'n gysylltiedig â'r Bloc Dwyreiniol, ond ar ôl hollt Tito-Stalin ym 1948, ni thanysgrifiodd erioed i Gytundeb Warsaw, ac ym 1961 daeth yn un o sylfaenwyr y Mudiad Anghydffurfiol (on-Aligned Movement).[18] Ym Mehefin 1991, datganodd Slofenia annibyniaeth o Iwgoslafia a daeth yn wladwriaeth sofran annibynnol.[19]
Mae Slofenia'n wlad ddatblygedig, gydag economi incwm uchel yn y Mynegai Datblygiad Dynol.[20] Mae cyfernod Gini yn graddio ei anghydraddoldeb incwm ymhlith yr isaf yn y byd (Lloegr yw un o'r uchaf yn y byd).[21] Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal yr Ewro, Ardal Schengen, yr OSCE, yr OECD, Cyngor Ewrop, a NATO.[22] Roedd Slofenia 33fed yn y Mynegai Arloesedd Byd-eang yn 2023.[23]
For centuries, the territory of Slovenia has been crossed by traditional transportation routes connecting northern Europe with southern, eastern, and western Europe. Slovenia's location in the northwestern part of the Mediterranean's most inland bay on the Adriatic Sea where the Alps, the plateaus of the Dinaric Alps, and the western margins of the Pannonian Basin meet gives [it] a relatively quite advantageous traffic and geographical position distinguished by its transitional character and the links between these geographical regions. In a wider macroregional sense, this transitional character and these links have not changed since prehistoric times.
|TransTitle=
ignored (|trans-title=
suggested) (help)
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search