Strathclyde

Strathclyde
MathScottish region Edit this on Wikidata
PrifddinasGlasgow Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16 Mai 1975 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYr Alban Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.7333°N 5.0333°W Edit this on Wikidata
Map

Un o naw cyn-rhanbarth llywodraeth leol yn yr Alban oedd Strathclyde (Gaeleg: Srath Chluaidh; Cymraeg: Ystrad Clud), a grewyd gan Deddf Llywodraeth Leol (yr Alban) 1973 a diddymwyd ym 1996 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (yr Alban) 1994. Roedd rhanbarth Strathclyde wedi ei is-rannu yn 19 ardal.

Rhanbarth llywodraeth leol Strathclyde

Roedd rhanbarth Strathclyde yn gorchuddio ardal a oedd yn ymestyn o arfordir gorllewinol yr Alban i'r Ucheldiroedd yn y gogledd, a'r Uwchdiroedd Deheuol i'r de. Roedd ganddo boblogaeth o dros 2.5 miliwn, y boblogaeth fwyaf o'r holl ranbarthau. Y llywodraeth rhanbarthol oedd yn gyfrifol am addysg, o'r ysgol feithrin i'r colegau; gwaith cymdeithasol; yr heddlu; tân; carthffosiaeth; cynllunio strategol; ffyrdd a thrafnidiaeth, ac felly roedd yn cyflogi bron i 100,000 o weision cyhoeddus (bron i hanner ohonynt ym maes addysg).

Lleolwyd y pencadlys gweinyddol yn y ddinas fwyaf, sef Glasgow, a dominyddwyd gwleidyddiaeth gan y Blaid Lafur yn bennaf. Y Parchedig Geoff Shaw, a fu farw ym 1978, oedd ymgynullwr cyntaf y cyngor rhanbarthol. Ei arweinyddiaeth ef oedd yn gyfrifol yn bennaf am strategaeth arloesol y rhanbarth ar aml-amddifadiad - a barhaodd i fod yn ymrwymiad canolig trwy'r "Social Strategy for the Eighties" (1982) a "SS for the 90s".[1]

Defnyddir yr ardal a wasanaethwyd gan y rhanbarth hyd heddiw fel ardal llu heddlu Strathclyde Police, a'r gwasnaeth tân, gan Strathclyde Fire a Rescue Service, ac fel ardal drafnidiaeth gan y Strathclyde Partnership for Transport.

  1. http://www.freewebs.com/publicadminreform/

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search