System nerfol

System nerfol
Enghraifft o'r canlynolmath o system anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathsystem o organnau, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Deunyddmeinwe nerfol Edit this on Wikidata
Rhan oy gyfunderfn niwrofasgiwlar Edit this on Wikidata
Yn cynnwysprif system nerfol, system nerfol ymylol, Niwron, neuroglia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
System Nerfol Dynol. Dengys y system nerfol ganolog mewn coch, a'r system nerfol ymylol mewn glas.

Rhwydwaith o gelloedd sydd wedi arbenigo mewn trosglwyddo a phrosesu gwybodaeth o fewn anifail a'i amgylchedd yw'r system nerfol. Mae'n prosesu'r wybodaeth gan achosi ymatebion mewn rhannau eraill o'r corff. Fe'i gwnaed allan o niwronau a chelloedd eraill arbenigol, sef glia, sy'n cynorthwyo'r niwronau i weithio. Caiff y system nerfol ei rannu yn fras yn ddau gategori: y system nerfol ymylol a'r system nerfol ganolog. Mae niwronau yn cynhyrchu ac yn dargludo ysgogiadau rhwng y ddwy system. Y niwronau synhwyro a'r niwronau eraill sy'n eu cysylltu gyda llinynnau'r nerf, madruddyn y cefn (asgwrn cefn) a'r ymennydd yw'r system nerfol canolig. Llinynnau'r nerf, madruddyn y cefn a'r ymennydd yw'r system nerfol ganolog.

Mae niwronau synhwyro, mewn ymateb i ysgogiadau, yn cynhyrchu a lledaenu negeseuon i'r system nerfol ganolog, sydd yn prosesu a dargludo'r signalau yn ôl i'r cyhyrau a'r chwarennau. Mae'r niwronau yn systemau nerfol anifeiliaid yn cysylltu mewn ffurf gymhleth, ac yn defnyddio negeseuon electrogemegol a thrawsyryddion-niwrol i ddargludo'r ysgogiadau o'r naill niwron i'r llall. Mae'r niwronau'n creu cylchedau niwrol, sy'n rheoli sut mae organeb yn deall beth sy'n mynd ymlaen yn ei gorff ac o'i gwmpas, ac felly'n rheoli ei ymddygiad. Mae'r systemau nerfol i'w chanfod mewn nifer o anifeiliaid amlgellog, ond mae'n amrywio'n fawr rhwng pob rhywogaeth.[1]

  1. Columbia Encyclopedia: Nervous System. Columbia University Press

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search