Teyrnas Gwynedd

Mae'r erthygl hon am y deyrnas hanesyddol Gwynedd. Am y sir fodern gweler Gwynedd. Gweler hefyd Gwynedd (gwahaniaethu)
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oes y Tywysogion

Braslun o Gymru, 1063-1282

HWB
Oes y Tywysogion
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Roedd Teyrnas Gwynedd yn un o brif deyrnasoedd Cymru yn yr Oesoedd Canol. Roedd ei ffiniau yn amrywio, yn dibynnu ar ba mor nerthol oedd y brenin neu'r tywysog, ond roedd wastad yn cynnwys Arfon, Eryri, ac Ynys Môn. Yn draddodiadol roedd Gwynedd yn cael ei rhannu'n ddau ranbarth: "Gwynedd Uwch Conwy" a "Gwynedd Is Conwy", gydag Afon Conwy yn ffin rhwng y ddwy ran.

Yn ôl Historia Brittonium (‘Hanes y Brythoniaid’, 9g) roedd Cunedda Wledig[1] a'i feibion wedi dod i lawr i ogledd-orllewin Cymru o'r Hen Ogledd, sef rhan ddeheuol yr Alban yn awr, er mwyn erlid y Gwyddelod o Wynedd, gan sefydlu teyrnas Gwynedd yn sgil hynny.[2] Yr hen enw mewn Lladin oedd Venedotia.[3] Mae dadlau ynghylch pryd digwyddodd hyn, gyda’r dyddiadau'n amrywio o ddiwedd y 4g i ddechrau’r 5g OC. Yn ôl yr hanes enwyd rhai o’r teyrnasoedd yng Nghymru ar ôl y meibion a ddaeth gyda Cunedda - er enghraifft, enwyd ‘Ceredigion’ ar ôl Ceredig tra bod Edeirnion a Rhufoniog wedi eu henwi ar ôl Edern a Rhufawn.[2][4]

Mae carreg fedd o ddiwedd y 5g yn Eglwys Penmachno yn dystiolaeth a fedrai fod o gymorth gyda'u dyfodiad i Wynedd. Mae'n coffau gŵr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Lladin fel "Cantiorix hic iacit/Venedotis cives fuit/consobrinos Magli magistrati", neu mewn Cymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at ‘ddinesydd’ a ‘magistratus’ yn awgrymu parhâd y drefn Rufeinig yng Ngwynedd am gyfnod ar ôl i'r llengoedd adael.[5]

Deganwy oedd safle prif lys Gwynedd yn oes Maelgwn Gwynedd, a oedd yn or-ŵyr i Gunedda Wledig, ac a fu’n teyrnasu yng Ngwynedd yn y 6g.[6][7] Yn nes ymlaen symudodd y prif lys i Aberffraw, a disgrifir rheolwr Gwynedd fel "Tywysog Aberffraw" neu "Arglwydd Aberffraw".

Datblygodd teyrnas Gwynedd yn y cyfnod pan ymadawodd y Rhufeiniaid â Phrydain, sef yn ystod y 5g, a phan oedd y wlad yn cael ei gwladychu gan yr Eingl-Sacsoniaid. Wedi eu sefydlu yng ngogledd-orllewin Cymru, esgynnodd rheolwyr Gwynedd i bŵer a chael eu cydnabod fel ‘Brenhinoedd y Brythoniaid’ cyn iddynt golli pŵer oherwydd rhyfeloedd ymysg ei gilydd a goresgyniad. Erbyn tua 1039 roedd Gruffydd ap Llywelyn wedi sefydlu ei hun fel rheolwr Gwynedd a Phowys, ac erbyn 1055 roedd wedi ychwanegu'r Deheubarth. Aeth ymlaen i gipio Morgannwg, ac o ganlyniad medrai hawlio ei fod yn rheoli Cymru gyfan erbyn diwedd y 1050au. Cyfeirir ato fel Brenin Gwynedd a Chymru, ac ef yw’r unig reolwr yn hanes Cymru all hawlio rheolaeth dros Gymru fel teyrnas gyfan. Chwalwyd ei deyrnas yn 1063 oherwydd goresgyniad gan y Sacsoniaid o dan arweiniad Harold Godwinson, dair blynedd cyn y goresgynnwyd Cymru gan y Normaniaid.[8] Lladdwyd Harold Godwinson, Brenin Lloegr ac etifedd Edward y Cyffeswr, pan saethwyd ef yn ei lygad ym Mrwydr Hastings yn 1066 gan fyddin Normanaidd Wiliam y Concwerwr.[9]

Ailsefydlwyd Teyrnas Gwynedd a Llys Aberffraw fel rheolwyr pwysicaf Cymru gyda dyfodiad Gruffydd ap Cynan, a oedd yn Frenin Gwynedd rhwng 1081 a 1137. Adferwyd statws llinach frenhinol Aberffraw ganddo a bu hwn yn gyfnod pontio pwysig a alluogodd Llywelyn ap Iorwerth, neu Lywelyn Fawr, i alw ynghyd dywysogion Cymru yn Aberdyfi yn 1216 er mwyn cyhoeddi bodolaeth Tywysogaeth Cymru. Yn 1258 tyngodd y rhan fwyaf o dywysogion Cymru lw o ffyddlondeb i Lywelyn ap Gruffudd, ŵyr Llywelyn Fawr, fel Tywysog Cymru, ac roedd Cytundeb Trefaldwyn yn 1267 yn gydnabyddiaeth gan Frenin Lloegr, Harri III, o’i awdurdod fel Tywysog Cymru a’i hawl i gael gwrogaeth gan y tywysogion Cymreig. Ond daeth tro ar fyd i deyrnas Gwynedd gyda Chytundeb Aberconwy yn 1277. Er ei fod yn sefydlu cytundeb ar heddwch rhwng Cymru a Lloegr ar y pryd roedd hefyd yn dynodi camau cyntaf diwedd annibyniaeth i Gymru. Oherwydd gwrthdaro rhwng Llywelyn ap Gruffudd ac Edward I, Brenin Lloegr, roedd telerau’r cytundeb yn cwtogi’n ddirfawr ar diroedd Llywelyn fel mai dim ond ei deyrnas yng Ngwynedd oedd yn ei feddiant o hyd. Yn 1282/3 daeth annibyniaeth Cymru i ben yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffydd yn 1282 a dienyddiad ei frawd Dafydd yn Amwythig yn 1283. Anfonwyd Gwenllian, merch Llywelyn ap Gruffudd ac Eleanor de Montfort, i leiandy yn Sempringham, swydd Norfolk, lle treuliodd weddill ei hoes nes iddi farw yn 1137. Anfonwyd meibion Dafydd, sef Owain a Llywelyn, i garchardai yn Lloegr, ac anfonwyd ei ferched yntau i leiandy. Roedd Edward, Brenin Lloegr, yn sicrhau felly nad oedd disgynyddion i linach frenhinol Aberffraw a theyrnas Gwynedd, a chyda hynny cychwynnwyd ar bennod newydd yn hanes Cymru, sef y Goncwest Edwardaidd.[10]

Amrywiodd a newidiodd ffiniau Teyrnas Gwynedd dros wahanol gyfnodau, ond yn ei hanfod roedd y deyrnas yn cynnwys cantrefi Aberffraw, Cemais a Chantref Rhosyr ar Ynys Môn, ac Arllechwedd, Arfon, Dunoding, Dyffryn Clwyd, Llŷn, Rhos, Rhufoniog a Thegeingl a phrif dir mynyddig Eryri.[11]

  1. "CUNEDDA WLEDIG (fl. 450?), tywysog Prydeinig | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  2. 2.0 2.1 Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. tt. 202–3. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  3. Lewis, Timothy (1913). A glossary of mediaeval Welsh law, based upon the Black book of Chirk. National Library of Scotland. Manchester : The University Press.
  4. "Full-text resources for 'Dark Age' history". www.kmatthews.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-28.
  5. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 54. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  6. "MAELGWN GWYNEDD (bu farw c. 547) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  7. Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Stephens, Meic, 1938- (arg. Arg. newydd). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 1997. t. 485. ISBN 0-7083-1382-5. OCLC 38068896.CS1 maint: others (link)
  8. Davies, John; Baines, Menna; Jenkins, Nigel; Lynch, Peredur. Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig. t. 396.
  9. "GRUFFYDD ap LLYWELYN (bu farw 1244), tywysog gogledd Cymru | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  10. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 93–101. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  11. "Oes y Tywysogion | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search