Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Daeth i ben | 10 Ebrill 1970 |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Apple Records, Capitol Records, Parlophone Records, United Artists Records, Vee-Jay Records, Polydor Records, Parlophon, I Dischi dello Zodiaco |
Dod i'r brig | 1960 |
Dod i ben | 10 Ebrill 1970 |
Dechrau/Sefydlu | 1960 |
Genre | cerddoriaeth roc, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth roc caled, roc a rôl, roc y felan, beat music, roc gwerin, roc seicedelig, canu gwerin, roc arbrofol |
Yn cynnwys | John Lennon, Ringo Starr, Paul McCartney, George Harrison |
Lleoliad yr archif | University of Maryland Libraries |
Gwefan | https://thebeatles.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Diwylliant Poblogaidd, c.1951-1979 | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Grŵp roc Saesneg o Lerpwl yn y 1960au oedd The Beatles, un o grwpiau roc enwoca'r byd. Mae'r band yn cael ei ystyried fel y band mwyaf dylanwadol erioed.[1] Y pedwar prif aelod oedd John Lennon, Paul McCartney, Ringo Starr a George Harrison. Ar ôl dysgu eu crefft mewn clybiau yn Lerpwl a Hamburg, fe ddaeth llwyddiant ym Mhrydain gyda'u cân gyntaf yn y siartiau, "Love Me Do", yn 1962. Ar ôl iddynt gael llwyddiant yn yr Unol Daleithiau yn 1964 ar ôl eu perfformiad ar The Ed Sullivan Show, roedd eu poblogrwydd yn cynyddu, i'r pwynt lle'r oedd "Beatlemania" i'w weld ym mhobman yr oeddent yn mynd. Cyn recordio Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band, cyhoeddwyd y grŵp eu bwriad i roi'r gorau i berfformio o flaen cynulleidfaoedd yn 1966. Mae nifer o'u recordiau wedi'u canmol fel rhai sydd 'ymysg y goreuon sydd wedi'u creu erioed'. Ar ôl nifer o anghydfodau ynglŷn â phenderfyniadau recordio, cytunodd y grŵp i roi'r gorau i ganu gyda'i gilydd. Yna, fe ddilynnodd pob aelod lwybrau gwahanol, gyda McCartney a Lennon yn cael gyrfaoedd llwyddiannus dros ben. Llofruddiwyd John Lennon ym 1980 a bu farw George Harrison yn 2001, ond mae'r ddau aelod arall yn dal yn fyw. Mae'r band yn dal i fod yn hynod o boblogaidd, ac yn dal i werthu miliynau o recordiau.
Y Beatles yw'r perfformwyr cerddoriaeth sydd wedi gwerthu orau erioed, gyda gwerthiannau ardystiedig o dros 183 miliwn o unedau yn yr Unol Daleithiau ac amcangyfrif o 600 miliwn o unedau o werthiannau ledled y byd. Nhw sydd â'r record am y nifer mwyaf o albymau rhif un yn Siart Albymau'r Deyrnas Unedig, y mwyafrif o ganeuon i gyrraedd rhif un ar siart Billboard Hot 100, a'r mwyaf o senglau a werthwyd gan berfformwyr yn y Deyrnas Unedig.[2]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search