![]() Poster Rhaghysbyseb | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Tom Hooper |
Cynhyrchydd | Tim Bevan Eric Fellner Anne Harrison Tom Hooper Gail Mutrux |
Ysgrifennwr | Sgript gan: Lucinda Coxon Seiliedig ar: The Danish Girl gan David Ebershoff |
Serennu | Eddie Redmayne Alicia Vikander Matthias Schoenaerts Ben Whishaw Sebastian Koch Amber Heard |
Cerddoriaeth | Alexandre Desplat |
Sinematograffeg | Danny Cohen |
Golygydd | Melanie Ann Oliver |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Working Title Pretty Pictures Revision Pictures Senator Global Productions Focus Features Universal Pictures International |
Dyddiad rhyddhau | 5 Medi 2015 (Fenis)[1] 27 Tachwedd, 2015 (Yr Unol Daleithiau) 1 Ionawr, 2016 (Y Deyrnas Undedig) |
Amser rhedeg | 119 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae The Danish Girl yn ffilm ddrama ffug-fywgraffyddol Brydeinig-Americanaidd a ymddangosodd yn 2015. Fe'i cyfarwyddwyd gan Tom Hooper, a fe'i seiliwyd ar y nofel o'r un enw gan David Ebershoff a gyhoeddwyd yn 2000. Ysbrydolwyd y llyfr yn fras gan fywydau'r peintwyr Danaidd Lili Elbe a Gerda Wegener.[2] Mae Eddie Redmayne yn serennu yn y ffilm fel Elbe, un o dderbynyddion adnabyddadwy cyntaf llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw. Mae Alicia Vikander yn chwarae rhan Wegener, ynghyd â Matthias Schoenaerts fel Hans Axgil a Ben Whishaw fel Henrik.
Fe'i sgriniwyd fel rhan o'r brif gystadleuaeth yn y 72ain Gŵyl Ffilm Fenis,[3][4] ac ymddangosodd yn y rhan Gyflwyniadau Arbennig yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto 2015.[5] Rhyddhawyd y ffilm yn gyfyngedig ar 27 Tachwedd 2015 gan Focus Features yn yr Unol Daleithiau.[6] Rhyddhawyd y ffilm ar 1 Ionawr 2016, yn y Deyrnas Unedig gan Universal Pictures International.[7]
|accessdate=, |date=
(help)
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search