Tirffurf

Castell y Gwynt: un o dirffurfiau amlycaf y Glyder Fach.

Nodwedd arbennig o'r dirwedd (e.e. peiran, ystumllyn, neu forffoleg) a chymeriad cyffredinol arwyneb y tir yw tirffurf. Gall fod yn ganlyniad i ryngweithiad prosesau geomorffolegol (er enghraifft, gweithgaredd afonol, gweithgaredd rhewlifol, hindreuliad) a phrosesau tectonig a folcanig.[1]

Geomorffoleg yw'r astudiaeth wyddonol o dirffurfiau'r ddaear a'r prosesau a roes fod iddynt.

  1. "'Termau Addysg Uwch' y Coleg Cymraeg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-15.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search