Enghraifft o'r canlynol | obsolete currency |
---|---|
Math | arian |
Dechrau/Sefydlu | 1991 |
Dechreuwyd | 8 Hydref 1991 |
Daeth i ben | 1 Ionawr 2007 |
Olynydd | Ewro |
Gwladwriaeth | Slofenia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Uned arian Slofenia o 1991 tan 2006 oedd y tolar. Rhennid yn 100 stotin.
Roedd papurau 10, 20, 50, 100, 200, 500, 1000, 5000 a 10,000 tolar mewn cylchrediad. Darluniwyd ffigyrau enwog o hanes, diwylliant a gwyddoniaeth Slofenia arnynt, gan gynnwys y diwygiwr Protestannaidd a chyfieithydd y Beibl Primož Trubar, y mathemategydd Jurij Vega, y pensaer Jože Plečnik, yr awdur Ivan Cankar a'r bardd France Prešeren.
Diddymwyd y tolar ym mis Ionawr 2007, pryd cyflwynyd yr ewro fel arian cyfredol Slofenia gyda chyfradd cyfnewid o 239.640 tolar i'r ewro.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search