Tonga

Tonga
Brenhiniaeth Tonga
Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga
ArwyddairGod and Tonga are my Inheritance Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, ynys-genedl Edit this on Wikidata
PrifddinasNuku'alofa Edit this on Wikidata
Poblogaeth108,020 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd4 Mehefin 1970 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr)
AnthemKo e fasi 'o e tu'i 'o e 'Otu Tonga Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPohiva Tuʻiʻonetoa Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+13:00, Pacific/Tongatapu Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAuckland, Owariasahi Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Tongan, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPolynesia Edit this on Wikidata
GwladTonga Edit this on Wikidata
Arwynebedd748.506563 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau20.58778°S 174.81028°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Deddfwriaethol Tonga Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Brenhiniaeth Tonga Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethTupou VI of Tonga Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Tonga Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPohiva Tuʻiʻonetoa Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$469.2 million Edit this on Wikidata
ArianTongan paʻanga Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant3.722 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.745 Edit this on Wikidata

Mae Tonga (yn swyddogol Teyrnas Tonga; yn y Tongaeg: Puleʻanga Fakatuʻi ʻo Tonga) yn wlad sofran, ac yn wlad ynys ym Mholynesia, sy'n rhan o Oceania. Mae ganddi 171 o ynysoedd - gyda phobl yn byw ar 45 ohonynt nhw. Cyfanswm arwynebedd y wlad yw tua 750 cilometr sgwar (290 milltir sgwar) a hynny wedi ei wasgaru dros arwynebedd o tua 700,000 o gilometrau sgwar (270,000 milltir sgwar)yn Ne'r Cefnfor Tawel. O 2021 ymlaen, yn ôl Johnson's Tribune, mae gan Tonga boblogaeth o 104,494,[1] gyda 70% ohonynt yn byw ar y brif ynys, sef Tongatapu. O'i hamgylch mae Fiji a Wallis a Futuna (Ffrainc) i'r gogledd-orllewin, Samoa i'r gogledd-ddwyrain, Caledonia Newydd (Ffrainc) a Fanwatu i'r gorllewin, Niue (y diriogaeth dramor agosaf) i'r dwyrain, a Kermadec (Seland Newydd) i'r de-orllewin. Mae Tonga tua 1,800 kilometre (1,100 mi) o Ynys y Gogledd, Seland Newydd ac mae'n aelod o Gymanwlad Lloegr.

Daeth gwareiddiad Lapita i fyw i Tonga am y tro cyntaf tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl, sef gwladfawyr (neu 'wladychwyr') Polynesaidd a esblygodd yn raddol ei hunaniaeth ethnig ei hun, gyda iaith adiwylliant unigryw. Roeddent yn gyflym i sefydlu sylfaen bwerus ar draws De'r Môr Tawel, a gelwir y cyfnod hwn o ehangu a gwladychu Tonga yn Ymerodraeth Tui Tonga. O reolaeth y brenin Tongan cyntaf, ʻAhoʻeitu, tyfodd Tonga'n bŵer rhanbarthol. Gorchfygodd ac aeth ati i reoli rhannau o'r Môr Tawel, o rannau o Ynysoedd Solomon a'r cyfan o Caledonia Newydd a Ffiji yn y gorllewin i Samoa a Niue a hyd yn oed cyn belled â rhannau o Polynesia Ffrengig heddiw yn y dwyrain. Daeth Tuʻi Tonga yn enwog am ei dylanwad economaidd, ethnig, a diwylliannol dros y Môr Tawel, a barhaodd hyd yn oed ar ôl chwyldro Samoaidd y 13g a darganfyddiad Ewropeaid o'r ynysoedd yn 1616.[2]

Rhwng 1900 a 1970, roedd gan Tonga statws gwladwriaeth warchodedig Brydeinig hy roedd Lloegr wedi'i meddiannu, ei gwladychu. Gofalodd y DU am faterion tramor Tonga o dan Gytundeb Cyfeillgarwch Tonga, ond ni ildiodd Tonga ei sofraniaeth i unrhyw bŵer tramor. Yn 2010, cymerodd gam pendant i ffwrdd o'i brenhiniaeth absoliwt draddodiadol a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol gwbl weithredol, ar ôl i ddiwygiadau deddfwriaethol baratoi'r ffordd ar gyfer ei hetholiadau cynrychioliadol cyntaf. Fel a ddigwyddodd yn Lloegr, daeth y brenin a'r frenhines yn ddim mwy na phwped.

  1. "Tonga Population 2021 (Demographics, Maps, Graphs)". worldpopulationreview.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 October 2021. Cyrchwyd 28 October 2021.
  2. see writings of Ata of Kolovai in "O Tama a Aiga" by Morgan Tuimaleali'ifano; writings by Mahina, also coronation edition of Spasifik Magazine, "The Pacific Islands: An Encyclopedia," edited by Lal and Fortune, pp. 133–

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search