Tsieina

Tsieina
Zhōnghuá Rénmín Gònghéguó
中华人民共和国
MathGwlad
Enwyd ar ôlQin, Chu, Yelang, Khitan people, Jin, Tuoba, Dahe, Brenhinllin Han, Northern Wei, Rinan, Qi, Chengdu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau35°N 105°E Edit this on Wikidata
Map
Pwnc yr erthygl hon yw y gwareiddiad Tsieineeg a'r ardal ddaearyddol yn nwyrain Asia. Os am ystyron eraill y gair gweler Tsieina (gwahaniaethu).

Mae Tsieina (hefyd Tseina neu China) (Tsieineeg traddodiadol: 中國, Tsieineeg symledig: 中国, pinyin: "Cymorth – Sain" Zhōngguó ) yn endid gwleidyddol a daearyddol yn nwyrain Asia.

Mae'n wlad yn Nwyrain Asia ac yn weriniaeth sosialaidd un blaid unedol dan arweiniad Plaid Gomiwnyddol Tsieina (CPC). Hi yw gwlad fwyaf poblog y byd, gyda phoblogaeth o fwy na 1.4 biliwn. Mae Tsieina'n dilyn un amser safonol sef UTC + 08: 00 er ei fod, mewn gwirionedd, yn rhychwantu pum cylchfa amser daearyddol ac yn ffinio â 14 gwlad, yr ail fwyaf o unrhyw wlad yn y byd, ar ôl Rwsia. Mae ei harwynebedd oddeutu 9.6 miliwn cilometr sgwâr (3.7 miliwn milltir2), hi yw trydedd neu bedwaredd wlad fwyaf y byd. Rhennir y wlad yn swyddogol yn 23 talaith (Saesneg: province, Mandarin: Shěng-jí xíngzhèngq), pum rhanbarth ymreolaethol, a phedair bwrdeirefyn Beijing (y brifddinas), Tianjin, Shanghai (y ddinas fwya), a Chongqing, yn ogystal â dau ranbarth gweinyddol arbennig: Hong Cong a Macu.

Daeth Tsieina i'r amlwg fel un o wareiddiadau cynta'r byd, ym masn ffrwythlon yr Afon Felen (y Huang He) ynng Ngwastadedd Gogledd Tsieina. Roedd Tsieina yn un o bwerau economaidd mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer y rhan fwyaf o'r ddwy fileniwm o 1g tan y 19g. Am filoedd o flynyddoedd, roedd system wleidyddol Tsieina wedi'i seilio ar frenhiniaeth etifeddol absoliwt, neu linach (dynasty), gan ddechrau gyda llinach Xia yn 21g CC. Ers hynny, mae Tsieina wedi ehangu, chwalu ac ail-uno sawl gwaith. Yn y 3g CC, adunodd y Qin y rhan fwyaf o Tsieina a sefydlu'r ymerodraeth Tsieineaidd gyntaf sef Brenhinllin Qin. Gwelodd Brenhinllin Han a'i holynodd (206 ÔC-220 ÔC) beth o'r dechnoleg fwyaf datblygedig ar yr adeg honno, gan gynnwys cynhyrchu papur a'r cwmpawd, ynghyd â gwelliannau amaethyddol a meddygol, powdwr gwn ac argraffu yn ystod Brenhinllin Tang (618-907) a Brenhiniaeth y Song Gogleddol (960–1127).

Ymledodd diwylliant Tang yn eang drwy Asia, wrth i'r Ffordd y Sidan newydd ddod â masnachwyr gyn belled â Mesopotamia a Chorn Affrica.

Dioddefodd Brenhinllin Qing yn drwm dan ormes imperialaeth tramor, negis Lloegr. Dyma linach olaf Tsieina, a sail tiriogaethol ar gyfer y Tsieina fodern. Cwympodd brenhiniaeth Tsieineaidd ym 1912 gyda Chwyldro 1911, pan ddisodlodd Gweriniaeth Tsieina (ROC) Brenhinllin Qing. Ymosododd Ymerodraeth Japan ar Tsieina yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1948 arweiniodd Rhyfel Cartref Tseina at rannu tiriogaethau pan sefydlodd Plaid Gomiwnyddol Tseiniaidd (CCP), dan arweiniad Mao Zedong, Weriniaeth Pobl Tsieina ar dir mawr Tsieina tra enciliodd Kuomintang dan arweiniad llywodraeth ROC i ynys Taiwan. Yn 2021 roedd y PRC a'r ROC ill dau'n honni mai nhw yw unig lywodraeth gyfreithlon Tsieina, gan arwain at anghydfod parhaus hyd yn oed ar ôl i'r Cenhedloedd Unedig gydnabod y PRC fel y llywodraeth sqyddogol.

Mae'r wlad yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ac yn aelod o sawl sefydliad fel Banc Buddsoddi Seilwaith Asiaidd, Cronfa'r Ffordd y Sidan, y Banc Datblygu Newydd, Sefydliad Cydweithredol Shanghai, a'r Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr Rhanbarthol, ac mae hefyd yn aelod o BRICS, y G8 + 5, y G20, APEC, ac Uwchgynhadledd Dwyrain Asia.

Mae ymhlith yr isaf o holl wledydd y byd mewn mesuriadau rhyngwladol o ran: rhyddid sifil, tryloywder ei llywodraeth, rhyddid y wasg, rhyddid crefydd a lleiafrifoedd ethnig. Mae awdurdodau Tsieineaidd wedi cael eu beirniadu gan wleidyddol ac actifyddion hawliau dynol am gam-drin hawliau dynol ar raddfa fawr, gan gynnwys gormes gwleidyddol, sensoriaeth dorfol, monitro torfol o'u dinasyddion ac atal protestiadau mewn modd treisgar.

Ar ôl diwygiadau economaidd ym 1978, a'i mynediad i Sefydliad Masnach y Byd yn 2001, daeth economi Tsieina yn wlad ail-fwyaf trwy Gynnyrch Mewnwladol Crynswth enwol yn 2010 a thyfodd i'r mwyaf yn y byd o ran PPP yn 2014. Tsieina yw'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, y genedl ail gyfoethocaf yn y byd, a gwneuthurwr ac allforiwr mwya'r byd. Mae gan y genedl fyddin sefydlog gryfaf yn y byd - Byddin Rhyddid y Bobl - y gyllideb amddiffyn ail-fwyaf, ac mae'n wladwriaeth arfau niwclear gydnabyddedig. Caiff ei chyfri'n uwch-bŵer posib oherwydd ei heconomi fawr a'i grym milwrol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search