Twrch daear

Twrch daear

Mamal yw'r twrch daear (lluosog: tyrchod daear) neu'r wahadden (lluosog gwahaddod) (ffurfiau eraill: gwadd a gwadden (lluosog gwaddod)), sy'n cynnwys y rhan fwyaf o deulu'r Talpidae yn y grŵp Soricomorpha.

Creadur bychan melfedaidd ei flew (a chanddo lygaid bychain, trwyn hirfain teimladwy a choesau blaen cryfion a chyhyrog) sy’n byw gan mwyaf mewn twnnelau dan wyneb y pridd, gan durio am bryfed genwair a chynrhon o bob math yn fwyd, twrch daear[1]

Er fod y rhan fwyaf o dyrchod daear yn tyrchu, mae rhai mathau yn ddyfrol neu'n rhannol ddyfrol. Mae gan dyrchod daear gyrff silindrog wedi ei orchuddio gyda blew, a llygaid bychain sydd wedi eu gorchuddio; mae'r clustiau yn anweledig fel rheol. Maent yn bwyta anifeiliaid bychain di-asgwrn cefn sy'n byw o dan y ddaear. Mae'r twrch daear i'w ganfod yng Ngogledd America, Ewrop ac Asia. Mae ei absenoldeb yn Iwerddon yn ddadlennol am hanes datblygiad daearyddol yr ynysoedd hyn ar ôl yr Oes Ia diwethaf.

Fel moch, gelwir y gwryw yn faedd; a'r fenyw yn hwch. Pryfaid genwair ac anifeiliaid bychain eraill yw prif ddiet tyrchod daear. Gallant hefyd ddal llygod bychain wrth y fynedfa i'w twll. Oherwydd fod eu poer yn cynnwys gwenwyn sy'n paraleiddio pryfaid genwair, gall tyrchod daear storio eu hysglyfaeth yn fyw ac yn llonydd i'w fwyta'n ddiweddarach. Maent yn adeiladu pantri er mwyn storio'r ysglyfaeth; mae ymchwilwyr wedi canfod pantrïoedd gyda dros mil o bryfaid genwair ynddynt. Cyn eu bwyta, mae'r tyrchod daear yn tynnu'r pryfaid genwair drwy eu pawenau er mwyn tynnu'r pridd a'r baw allan o'i berfedd.[2]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru
  2. The Life of Mammals, David Attenborough, 2002

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search