![]() | |
![]() | |
Math | tref neu ddinas, endid tiriogaethol gwleidyddol, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 872,100 ![]() |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Mikhail Afanasyev ![]() |
Cylchfa amser | UTC+05:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tyumen Urban Okrug ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 698.48 km² ![]() |
Uwch y môr | 102 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 57.15°N 65.53°E ![]() |
Cod post | 625000 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Mikhail Afanasyev ![]() |
![]() | |
Dinas yn Siberia, Rwsia, yw Tyumen (Rwseg: Тюмень; IPA: [tʲʉˈmʲenʲ]) sy'n ddinas fwyaf a chanolfan weinyddol Oblast Tyumen, Dosbarth Ffederal Ural, ac a leolir ar lan Afon Tura 2,500 cilometer (1,600 milltir) i'r dwyrain o Foscfa. Yn ôl cyfrifiad Rwsia 2010 mae 581,907 o bobl yn byw yn y ddinas.[1]
Tyumen oedd yr aneddiad Rwsiaidd cyntaf yn Siberia. Fe'i sefydlwyd yn 1586 fel canolfan i hyrwyddo ymlediad Rwsia i'r dwyrain ac mae'n aros yn un o'r canolfannau diwydiannol ac economaidd pwysicaf i'r dwyrain o Fynyddoedd yr Wral. Saif ar groesffordd sawl llwybr masnach mawr gyda mynediad i afonydd gall llongau eu defnyddio, ffaith a arweiniodd at dwf cyflym Tyumen o aneddiad milwrol bychan i fod yn ddinas fasnachol fawr. Yng nghanol Hen Tyumen ceir sawl adeilad hanesyddol sy'n adlewyrchu hanes hir y ddinas.
Heddiw mae Tyumen yn ganolfan busnes o bwys. Tyumen yw canolfan cludiant a diwydiant Oblast Tyumen, ardal gyfoethog mewn adnoddau naturiol ac sy'n ymestyn o'r ffin rhwng Rwsia a Casachstan i Gefnfor yr Arctig.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search