Tywysogaeth Cymru

Tywysogaeth a grëwyd gan Llywelyn ap Gruffudd ac a gydnabuwyd yn ffurfiol gan Loegr drwy Gytundeb Trefaldwyn ym 1267 oedd Tywysogaeth Cymru. Roedd yn cynnwys, yn fras, gogledd-orllewin a gorllewin Cymru, sef Gwynedd Uwch Conwy, rhan helaeth o'r Berfeddwlad, Powys Fadog a Phowys Wenwynwyn, rhannau o'r diriogaeth a gipiwyd gan Lywelyn oddi ar arglwyddi'r Mers, a Deheubarth; nid oedd yn cynnwys amrywiol arglwyddiaethau'r Mers ei hun (yn fras, dwyrain a de Cymru).

Trwy Gytundeb Trefaldwyn, llwyddodd Llywelyn i gael gan y brenin gadarnhad o sylwedd yr hyn a enillasai drwy Gytundeb Pipton, cadarnhad y bu'n rhaid iddo dalu 25,000 marc (£16,666) amdano. Cydnabuwyd ei fod yn Dywysog Cymru a bod ganddo hawl i wrogaeth pob arglwydd Cymreig ac eithrio Maredudd ap Rhys o Ddryslwyn. (Prynodd yr hawl i wrogaeth hwnnw ym 1270.) Caniatawyd iddo feddiant ar Fuellt, Gwrtheyrnion a Brycheiniog a rhoddwyd iddo gyfle i brofi ei hawl i gadw eraill o arglwyddiaethau'r Mers. Roedd sicrhau Cytundeb Trefaldwyn yn orchest fawr oherwydd golygai gydnabod fod Llywelyn wedi creu hanfodion politi Cymreig.[1]

O safbwynt cyfansoddiadol, y peth pwysicaf a gyflawnwyd trwy Gytundeb Trefaldwyn oedd iddo, ar sail cydsynio rhwng brenin Lloegr a thywysog Cymru, gydnabod sefydliad a elwir yn Lladin y cytundeb yn principatus Wallie, ymadrodd a fynegir yn gyffredin yn Gymraeg bellach fel "Tywysogaeth Cymru". Bu i'r ymadrodd hwn ddau ystyr. Yn gyntaf golygai swydd neu safle swyddogol tywysog Cymru. Eithr yn fwy cyffredin golygai'r diriogaeth y gweithredai tywysog Cymru fel tywysog o'i mewn. Am dair canrif ar ôl 1267 nid oedd ond oddeutu hanner Cymru yn perthyn i'r diriogaeth honno. Yno dechreuwyd defnyddio'r gair "tywysogaeth" am Gymru gyfan, nes i'r ymadrodd syml "Y Dywysogaeth" ddod o'r diwedd yn ddull cydnabyddedig o gyfeirio at Gymru yn ei chyfanrwydd.[2]

Ar ôl goresgyniad Cymru gan Edward I o Loegr daeth i feddiant Coron Lloegr gyda Statud Rhuddlan (1284). Llywodraethid y dywysogaeth yn uniongyrchol gan Goron Lloegr, trwy'r rhwydwaith o gestyll a bwrdeistrefi Seisnig a sefydlwyd ynddi, fel uned ar wahân o fewn Cymru.

Daeth i ben fel uned weinyddol ym 1542 pan gyfunwyd tywysogaeth Cymru â Sir y Fflint a'r Mers, ond daliai rhai i gyfeirio at Gymru gyfan fel "Tywysogaeth Cymru" am beth amser, sy'n ddefnydd anghywir o'r term. Er bod etifedd y goron Brydeinig yn derbyn y teitl "Tywysog Cymru" yn draddodiadol heddiw, mae hynny heb unrhyw rôl gyfansoddiadol mewn llywodraethu Cymru. Er bod rhai pobl yn dal i gyfeirio at Gymru fel "Y Dywysogaeth", ni ddefnyddir yr enw hwn i gyfeirio at y wlad yn swyddogol heddiw, ond yn hytrach Cymru yn unig a ddefnyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth y DU. I nifer o Gymry heddiw mae defnyddio'r term i gyfeirio at Gymru yn cael ei ystyried yn ddatganiad gwleidyddol unoliaethol a/neu nawddoglyd am ei fod yn awgrymu fod Cymru yn rhanbarth llai na gwlad.

  1. John Davies. Hanes Cymru. Penguin 1990, tud. 142. ISBN 9780140125702
  2. Edwards, J. Goronwy; Tywysogaeth Cymru: 1267-1967, tud. 5, Gwasg Prifysgol Cymru 1991, Cyfieithiad gan Gwynn ap Gwilym o waith a gyhoeddwyd ym 1969 gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search