Urdd Gobaith Cymru

Urdd Gobaith Cymru
Aelodaeth56,000
Prif WeithredwrSian Lewis
Sefydlwyd25ed o Ionawr 1922
SefydlyddSyr Ifan ab Owen Edwards
Gwefanhttp://urdd.cymru

Mudiad ieuenctid Cymraeg yw Urdd Gobaith Cymru â dros 56,000 o aelodau[1] rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Sefydlwyd yr Urdd yn 1922. Mae’r Urdd yn fudiad unigryw gyda’r nod I ‘sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr Iaith Gymraeg I holl ieuenctid Cymru ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi I chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol’. Mae 4 miliwn o blant a phobl ifanc wedi bod yn rhan o’r Urdd.

Mae’r Urdd yn sicrhau bod darpariaeth sy’n addas i ddysgwyr Cymraeg yn ganolog i holl wasanaethau a chyfleoedd yr Urdd.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn darparu cyfleoedd positif sydd yn ymestyn gorwelion pobl ifanc trwy:

  • Canolfannau Preswyl
  • Darpariaeth Chwaraeon
  • Celfyddydau a diwylliant
  • Gwaith Ieuenctid
  • Prentisiaethau a Sgiliau
  • Gweithgareddau Awyr Agored
  • Gwirfoddoli
  • Gweithgareddau Dyngarol
  • Rhwydwaith o ddarpariaeth gymunedol
  • Cyfleoedd Rhyngwladol
  • Cyhoeddiadau

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search