Vladimir Putin

Владимир Путин
Vladimir Putin
Vladimir Putin


Deiliad
Cymryd y swydd
7 Mai 2012
Rhagflaenydd Dmitry Medvedev
Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2000 – 7 Mai 2008
Rhagflaenydd Boris Yeltsin
Olynydd Dmitry Medvedev

Cyfnod yn y swydd
8 Mai 2008 – 7 Mai 2012
Rhagflaenydd Viktor Zubkov
Olynydd Viktor Zubkov

Geni 7 Hydref 1952
Leningrad
Priod Ludmila Putina
Llofnod

Gwleidydd Rwsaidd ac Arlywydd Ffederasiwn Rwsia ers 2012 a chyn hynny o Fai 2000 hyd Fai 2008 yw Vladimir Putin (trawslythreniad amgen: Fladimir Pwtin[1]; Rwsieg: Влади́мир Влади́мирович Пу́тин) (ganed 7 Hydref 1952). Fe ddaeth yn arlywydd gweithredol ar 31 Rhagfyr 1999, yn olynydd i Boris Yeltsin, ac fe'i arwisgwyd yn arlywydd ar ôl etholiadau ar 7 Mai 2000. Yn 2004, fe'i ail-etholwyd am ail dymor a ddaeth i ben ar 2 Mawrth 2008; cafodd ei olynu gan Dmitry Medvedev. Yn ôl y cyfansoddiad ar y pryd, ni allai gael ei ail-ethol drachefn. Serch hynny, datganodd y byddai yn sefyll dros sedd yn y Duma fel ymgeisydd cyntaf ar restr etholiadol plaid Rwsia Unedig (Edinaya Rossiya). Agorodd hynny y posibilrwydd iddo gymryd swydd Prif Weinidog Rwsia o dan yr arlywydd newydd: un o benderfyniadau cyntaf Medvedev oedd cynnig y swydd honno iddo.

Mae swyddogion llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi honni ei fod e wedi arwain ymyrraeth Rwsiadd yn Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016 yn erbyn Hillary Clinton ac mewn cefnogaeth i Donald Trump, ond mae Putin wedi gwadu a beirniadu hyn sawl gwaith.[2]

  1. "Yr athronydd yn y Cremlin". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2022-03-01.
  2. "Putin says claims of Russian meddling in U.S. election are 'just some kind of hysteria'". Los Angeles Times. 2 June 2017.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search