Walter Benjamin | |
---|---|
Ffugenw | Benedix Schönflies, Detlev Holz |
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1892 Berlin |
Bu farw | 26 Medi 1940 Portbou |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, ysgrifennwr, cyfieithydd, awdur ysgrifau, beirniad llenyddol, cymdeithasegydd, beirniad celf, hanesydd llenyddiaeth, cyfieithydd |
Adnabyddus am | Theses on the Philosophy of History, The Work of Art in the Age of Mechanical Reproduction, The Origin of German Tragic Drama, One Way Street, The arcades project |
Prif ddylanwad | Johann Wolfgang von Goethe, Charles Baudelaire, Karl Marx, György Lukács, Bertolt Brecht |
Mudiad | Marcsiaeth |
Tad | Emil Benjamin |
Priod | Dora Sophie Kellner |
Plant | Stefan Benjamin |
Perthnasau | William Stern, Gertrud Kolmar, Günther Anders, Leon Kellner, Hannah Arendt |
Roedd Walter Benedix Schönflies Benjamin (Berlín, 15 Gorffennaf 1892 – Portbou, Catalunya 26 Medi 1940) yn ysgrifennwr, cyfieithydd ac athronydd o dras Iddewig ac yn gysylltiedig gyda’r grŵp athronyddol Ysgol Frankfurt.[1].
Cyfrannodd Benjamin yn helaeth i ddatblygiad a syniadaeth damcaniaeth beirniadol a diwylliannol gyda gwaith fel The Task of the Translator, (1923) a The Work of Art in the Age of Mechanical Reproduction, (1936)
Dylanwadwyd Benjamin gan syniadaeth Theodor Adorno, Marcsiaeth Bertolt Brecht a chred Iddewig Gerschom Scholem.
Roedd gan Benjamin ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth a llenyddiaeth ei oes. Dadansoddodd waith Franz Kafka, Brecht a Friedrich Hölderlin gan geisio gwahanu'r gwaith o’u cyd-destun penodol.
Yn ei waith enwocaf The Work of Art in the Age of Mechanical Reproduction mae Benjamin yn ystyired sut mae ffydd o gynhyrchu, fel ffilm a ffotograffiaeth yn effeithio’r celfyddydau.[2]
Bu farw yn 48 oed wrth geisio dianc rhag y Natsïwyr yn Portbou, Catalunya wrth ffin Ffrainc a Sbaen.[1].
Mewn cyflwr iechyd gwael, lladdodd Benjamin ei hun trwy gymryd gorddos o forffin wrth anobeithio am broblemau ei daith i geisio cyrraedd yr Unol Daleithiau. Yn 2001 ymddangosodd erthygl yn The Observer yn honni roedd wedi’i ladd gan asiantau Stalin.[3] Ond mae arbenigwyr ar fywyd Benjamain yn diystyru hyn.[4]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search