Walter Benjamin

Walter Benjamin
FfugenwBenedix Schönflies, Detlev Holz Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Gorffennaf 1892 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1940 Edit this on Wikidata
Portbou Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Richard Herbertz Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, ysgrifennwr, cyfieithydd, awdur ysgrifau, beirniad llenyddol, cymdeithasegydd, beirniad celf, hanesydd llenyddiaeth, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTheses on the Philosophy of History, The Work of Art in the Age of Mechanical Reproduction, The Origin of German Tragic Drama, One Way Street, The arcades project Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJohann Wolfgang von Goethe, Charles Baudelaire, Karl Marx, György Lukács, Bertolt Brecht Edit this on Wikidata
MudiadMarcsiaeth Edit this on Wikidata
TadEmil Benjamin Edit this on Wikidata
PriodDora Sophie Kellner Edit this on Wikidata
PlantStefan Benjamin Edit this on Wikidata
PerthnasauWilliam Stern, Gertrud Kolmar, Günther Anders, Leon Kellner, Hannah Arendt Edit this on Wikidata

Athronydd a beirniad diwylliannol o'r Almaen o dras Iddewig oedd Walter Benedix Schönflies Benjamin (Berlín, 15 Gorffennaf 1892 – Portbou, Catalunya 26 Medi 1940), sy'n gysylltiedig â’r grŵp athronyddol Ysgol Frankfurt.[1].

Dylanwadwyd Benjamin gan syniadaeth Theodor Adorno, Marcsiaeth Bertolt Brecht a chred Iddewig Gershom Scholem.

Cyfrannodd Benjamin yn helaeth i ddatblygiad a syniadaeth damcaniaeth beirniadol a diwylliannol gyda gwaith fel Das Kunstwerk im Zeitalter seiner technischen Reproduzierbarkeit ("Gwaith Celf yn Oes Atgynhyrchu Mecanyddol", 1935), ei waith enwocaf. Mae Benjamin yn ystyired sut mae ffydd o gynhyrchu, fel ffilm a ffotograffiaeth yn effeithio’r celfyddydau.[2]

Roedd gan Benjamin ddiddordeb mawr mewn barddoniaeth a llenyddiaeth ei oes. Dadansoddodd waith Franz Kafka, Brecht a Friedrich Hölderlin gan geisio gwahanu'r gwaith o’u cyd-destun penodol.

Bu farw yn 48 oed wrth geisio dianc rhag y Natsïwyr yn Portbou, Catalunya wrth ffin Ffrainc a Sbaen.[1] Mewn cyflwr iechyd gwael ac wrth anobeithio am broblemau ei daith i geisio cyrraedd yr Unol Daleithiau, lladdodd Benjamin ei hun trwy gymryd gorddos o forffin. Yn 2001 ymddangosodd erthygl a oedd yn honni iddo gael ei ladd gan asiantau Stalin.[3] Ond mae arbenigwyr ar fywyd Benjamain yn diystyru hyn.[4]

  1. 1.0 1.1 https://plato.stanford.edu/entries/benjamin
  2. famousphilosophers.org
  3. Stuart Jeffries, "Did Stalin Killers liquidate Walter Benjamin?", The Observer, 8 Gorffennaf 2001
  4. Howard Eiland a Michael W. Jennings, Walter Benjamin: A Critical Life (Harvard University Press, 2014)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search