Wicipedia:Sut i olygu tudalen

Cymorth:CynnwysCymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys
Cymorth:Cynnwys


Gweler hefyd Wicipedia:Tiwtorial.

Gallwch olygu erthyglau Wicipedia mewn 3 ffordd:

  1. Y Golygydd Gweladwy (hitiwch 'Golygu')
  2. Golygu'r cod (hitiwch 'Golygu cod y dudalen')
  3. Y Cymhorthydd Golygu, sy'n eich galluogi i gyfieithu erthygl o iaith arall

Ymddengys y newidiadau gynted ag y byddwch yn dewis "Cadw" neu "Cyhoeddi".

Arbrofi

Os ydych am arbrofi byddwch mor garedig â gwneud hynny yn y pwll tywod yn hytrach nag yn fan hyn. Mewn rhai porwyr mae modd agor y bocs tywod mewn tab neu ffenestr arall er mwyn gallu gweld y dudalen hon a’r arbrofion yn y pwll tywod ar unwaith. I wneud hynny cliciwch i’r dde ar y cyswllt i’r pwll tywod a dewiswch ‘Agor mewn ffenestr arall’.

Mae golygu tudalen Wici'n syml

Cliciwch ar y tab "Golygu" ar ben y ddalen ac fe agorir blwch testun ac ynddo iaith syml Wicipedia. Wedi i chi orffen golygu yn y blwch testun symudwch i waelod y dudalen olygu ble y gwelwch:

  • blwch "crynodeb": i nodi natur y golygiad, e.e. ychwanegu cyswllt, cam-sillafiad. Bydd hyn yn hwyluso gwaith defnyddwyr eraill.
  • blwch ticio "Mae hwn yn olygiad bychan". Gallwch dicio’r blwch os mai cywiro un gwall neu gamdeipio ydych. Ni ddylid ticio’r blwch os oes rhyw newid yn y ffeithiau yn yr erthygl. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi fydd yn gweld y blwch hwn.
  • botwm "Dangos Rhagolwg". Cliciwch ar hwn ac mewn ychydig eiliadau bydd rhagolwg o’r dudalen yn ymddangos ar ben uchaf y dudalen olygu, uwchben y blwch testun. Defnyddiwch y bar rholio ar yr ymyl dde i symud lawr ar hyd y dudalen nes y dewch at y blwch testun eto, lle y gallwch barhau i olygu, ac islaw hwnnw at y tri botwm glas
  • blwch ticio "Gwylier y dudalen hon". Ticiwch y blwch os am ychwanegu’r dudalen at eich rhestr gwylio. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi all wneud hyn.
  • botwm "Dangos newidiadau". O ddewis hwn fe welwch pa newidiadau yr ydych ar fin eu gwneud i’r fersiwn gynt.
  • botwm "Cadw’r dudalen". Dewisiwch hwn pan rydych yn fodlon â'r y golygiad ac mae'n 'safio' neu'n 'cadw' unrhyw newidiadau a wnaethoch. Gofal: os symudwch o’r dudalen olygu i dudalen arall cyn dewis "Cadw’r dudalen" fe gollwch y gwaith teipio a wnaethoch.

Mae gan bob erthygl (a thudalen arall) "Dudalen sgwrs" ar gyfer sylwadau gan ddefnyddwyr eraill Wicipedia. Gallwch olygu hon hefyd drwy ddewis y tab "Golygu" uwch ei phen. Os y byddwch yn ychwanegu at y dudalen sgwrs cofiwch lofnodi'r darn os gwelwch yn dda, trwy ychwanegu 4 tilda ~~~~.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search