![]() | |
Enghraifft o: | grŵp ethnig ![]() |
---|---|
Math | Pobl Twrcaidd, Asiaid Canol ![]() |
Mamiaith | Wsbeceg ![]() |
Poblogaeth | 30,000,000 ![]() |
Crefydd | Swnni ![]() |
Rhan o | Pobl Twrcaidd ![]() |
Gwladwriaeth | Wsbecistan, Affganistan, Tajicistan, Cirgistan, Casachstan, Rwsia, Tyrcmenistan, Twrci, Pacistan, Unol Daleithiau America, Wcráin, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Sweden, Belarws, Mongolia ![]() |
![]() |
Pobl Dyrcig yng Nghanolbarth Asia yw'r Wsbeciaid. Trigasant yn bennaf yn Wsbecistan, ac yno maent yn cyfrif am ryw 80% o'r boblogaeth. Maent hefyd yn byw mewn niferoedd uchel yn Affganistan, Tajicistan, Cirgistan, Casachstan, Tyrcmenistan, a thalaith Xinjiang yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina. Maent yn siarad yr iaith Wsbeceg, a chanddi ddwy brif dafodiaith.
Daw enw'r Wsbeciaid mae'n debyg o Öz Beg (Uzbek), khan y Mongolwyr yn hanner cyntaf y 14g. Goresgynnwyd yr ardal gan lwythau Mongolaidd a Thyrcig o'r 11g hyd y 15g, a chymysgant â'r bobloedd Iranaidd hynafol. Gwasgarant dros holl Dyrcestan, gan amaethu a masnachu.
Mwslimiaid Sunni ydy'r mwyafrif helaeth o Wsbeciaid, ac yn canlyn y ddefod Hanafi. Hwy yw'r un garfan o'r holl bobloedd Tyrcig dan reolaeth gynt yr Undeb Sofietaidd sydd wedi dioddef lleiaf o Rwsieiddio.[1]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search