Enghraifft o'r canlynol | diwylliant, arddull, grwp ethnig hanesyddol |
---|---|
Math | llwyth, grwp ethnig hanesyddol |
Olynwyd gan | Celtiaid modern |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Celtiaid |
---|
Llwythau eraill |
Rhanbarthau hynafol |
Mytholeg Oidelig |
Ieithoedd Celtiaid |
Prif fudiadau gwleidyddol |
Defnyddir y term y Celtiaid gan haneswyr ac archeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewin Ewrop, gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled ag Asia Leiaf. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld yn ieithoedd Celtaidd a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaith Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, a Chernyweg) a rhwng y tair iaith Oideleg (Gaeleg, Gwyddeleg, a Manaweg).
Mae'r diffiniad o "Gelt" yn bwnc dadleuol iawn, rhywbeth sy'n wir am Geltiaid yr hen-fyd a'r Celtiaid modern. Awgryma llawer o'r cyfeiriadau at Geltiaid yn yr hen-fyd gan awduron Groegaidd eu bod yn byw i'r gogledd o drefedigaeth Roegaidd Massalia (Marseille heddiw) yng Ngâl, ond mae rhai awduron i bob golwg yn eu lleoli yng nghanolbarth Ewrop. Dywed Herodotus eu bod yn byw o gwmpas tarddle Afon Donaw; ond mae'n eglur ei fod ef yn credu fod Afon Donaw yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin nag y mae mewn gwirionedd. Lleolir y Celtiaid yng Ngâl gan y rhan fwyaf o awduron Rhufeinig; dywed Iŵl Cesar fod y bobl oedd yn eu galw eu hunain yn "Geltiaid" yn eu hiaith eu hunain yn byw yng nghanolbarth Gâl.
Dechreuodd y defnydd modern o'r term "Celtaidd" yn y 18g pan ddangosodd Edward Lhuyd fod ieithoedd megis Cymraeg, Llydaweg a Gwyddeleg yn perthyn i'w gilydd. Rhoddodd yr enw "ieithoedd Celtaidd" arnynt. Yn ddiweddarach, yn gam neu'n gymwys, cysylltwyd y Celtiaid a diwylliannau yn yr ystyr archeolegol sy'n cynnwys y diwylliant Hallstatt a diwylliant La Tène. Ystyria'r mwyafrif o ysgolheigion fod y "byd Celtaidd" yn yr hen-fyd yn cynnwys Celt-Iberiaid (Portiwgal a Sbaen heddiw, gan gynnwys Galicia), trigolion Prydain ac Iwerddon, y Galiaid yng Ngâl (Ffrainc, gogledd yr Eidal, y Swistir a'r cylch) a'r Galatiaid (Asia Leiaf: Twrci heddiw). Mae rhai ysgolheigion yn dadlau na ddylid ystyried trigolion Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid yn yr ystyr yma.
Y gwledydd a ystyrir yn "wledydd Celtaidd" heddiw fel rheol yw'r chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd-orllewin Ewrop — yr Alban, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Ynys Manaw, a Llydaw. Mae nifer o daleithiau neu ardaloedd mewn gwledydd eraill hefyd yn hawlio etifeddiaeth Geltaidd, yn arbennig Galicia ac Asturias yn Sbaen.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search