Y Dydd Olaf (albwm)

Y Dydd Olaf
Clawr Y Dydd Olaf
Albwm stiwdio gan Gwenno
Rhyddhawyd Tachwedd 2014
Label Recordiau Peski, Recordiau Heavenly
Cronoleg Gwenno
Y Dydd Olaf
(2014)
Le Kov
(2018)
Erthygl am gasgliad o ganeuon gan Gwenno Saunders yw hon, am y nofel wyddonias gan Owain Owain, gweler yma.

Albwm cyntaf y gantores Gwenno yw Y Dydd Olaf. Rhyddhawyd yr albwm yn Nhachwedd 2014 ar y label Recordiau Peski.

Yn dilyn casgliad o EPs dros y ddwy flynedd flaenorol, cafodd albwm cyntaf y frenhines electro-pop ei ryddhau ar ddiwedd 2014. Record gysyniadol wedi’i hysbrydoli gan nofel ffuglen wyddonol Owain Owain, sy’n rhannu enw’r albwm, a ryddhawyd ym 1976. Mae’n record wyddonol, mae’n record alluog, ac mae’n record sy’n torri tir newydd yn y Gymraeg.

Dewiswyd Y Dydd Olaf yn un o ddeg albwm gorau 2014 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Murlun o Gwenno Saunders a'r Dydd Olaf; Stryd Womanby, Caerdydd; 2017.
  1. 10 Uchaf Albyms Gorau 2014 - Y Selar, Mawrth 2015

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search