Y Gwrthryfel Arabaidd | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o ymgyrchoedd Arabia yn theatr y Dwyrain Canol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. | |||||||||
![]() T. E. Lawrence wedi Brwydr Aqaba. | |||||||||
| |||||||||
Cydryfelwyr | |||||||||
![]() ![]() ![]() ![]() |
![]() | ||||||||
Arweinwyr | |||||||||
![]() ![]() ![]() ![]() ![]() |
![]() ![]() ![]() | ||||||||
Nerth | |||||||||
30,000 (Mehefin 1916)[1] | 23,000[1] |
Gwrthryfel a gychwynwyd gan y Sharif Hussein bin Ali oedd y Gwrthryfel Arabaidd (1916–1918) (Arabeg: الثورة العربية Al-Thawra al-`Arabiyya; Tyrceg: Arap İsyanı) gyda'r nod o ennill annibyniaeth i'r Arabiaid oddi wrth Ymerodraeth yr Otomaniaid a chreu un wladwriaeth Arabaidd unedig i ymestyn o Aleppo yn Syria i Aden yn Iemen. Roedd yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol.
Arweiniwyd y gwrthryfel gan feibion y Sharif, yr Emiriaid Ali, Faisal, Abdullah a Zeid, gyda chymorth rhai swyddogion Prydeinig a Ffrengig. Ym Mehefin 1917 cipiodd yr Arabiaid borthladd Aqaba ar y Môr Coch, a symudasant yn raddol i'r gogledd. Targedodd yr Arabiaid Reilffordd Hejaz gan dorri cyflenwadau bwyd a dillad i'r Otomaniaid (neu'r Tyrciaid) ym Medina, ac roedd hyn o gymorth i ymgyrch y Cynghreiriaid yn Sinai a Phalesteina. Cwympodd Damascus ym mis Hydref 1918.
Creda'r Arabiaid fod ganddynt air Prydain: y byddai gwladwriaeth Arabaidd unedig yn cael ei ffurfio ar ôl cwymp Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ôl Llythyron McMahon–Hussein, ond wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf cawsant eu dadrithio'n llwyr gan Gytundeb Sykes–Picot, a oedd yn rhannu'r Dwyrain Canol rhwng Prydain a Ffrainc, drwy Ddatganiad Balfour a oedd yn addo gwlad i'r Iddewon ym Mhalesteina.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search