Y Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd

Mae'r Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd (Arabeg: منظمة التعاون الاسلامي); (Ffrangeg: Coopération Islamique; Saesneg: Organisation of Islamic Cooperation) yn sefydliad rhyngwladol sy'n grwpio gwladwriaethau'r crefydd Mwslemaidd. Crewyd y Sefydliad yn 1969 yn ystod Cynhadledd Rabat ac a ffurfiolodd ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Mae pencadlys y Sefydliad yn Jeddah, prifddinas Arabia Sawdi, ar arfordir Sawdi Arabia gyda'r Môr Coch. Mae ganddi 57 o aelodau, gan gynnwys cynrychiolaeth Awdurdod Palesteina. Ar 28 Mehefin 2011 newidiwyd yr enw o'r un wreiddiol sef "Sefydliad y Gynhadledd Islamaidd" (Arabeg: منظمة المؤتمر الإسلامي; Ffrangeg: Organisation de la Conférence Islamique; Saesneg: Organization of the Islamic Conference).

Mae ei weithredoedd yn gyfyngedig i'r gweithgarwch cydweithredol ymhlith ei aelodau, yn enwedig yn y frwydr yn erbyn imperialaeth, neocoloniaeth a thros rhyddid Palestina. Yn hanesyddol cynhaliwyd nifer o gyngherddau a gyfrannodd at ei ddatblygiad: Lahore (1974), Mecca (1981), Casablanca (1984), Kuwait (1987), Dakar (1991). Mae ei gwaddol yn llai na rhai'r Gynghrair Arabaidd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search