Y Tair Rhamant


Mae'r tair stori a adnabyddir wrth yr enw Y Tair Rhamant yn chwedlau Arthuraidd Cymraeg Canol o'r Oesau Canol. Maent i'w cael yn rhannol neu yn gyfan yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Ceir chwedlau sy'n cyfateb iddynt yng ngwaith yr awdwr Ffrangeg Chrétien de Troyes o ail hanner y 12g yn ogystal. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Mae iaith ac arddull y rhamantau hyn yn bur debyg i iaith ac arddull Pedair Cainc y Mabinogi.

Y Tair Rhamant yw:

Mae Iarlles y Ffynnon yn cyfateb i Yvain ou le Chevalier au lion gan Chrétien, Peredur fab Efrawg i Perceval ou le Conte du Graal a Gereint ac Enid i Érec et Énide.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search