Y Testament Newydd

Ail ran y Beibl Cristnogol yw'r Testament Newydd. Mae'n dilyn yr Hen Destament (a'r Apocryffa mewn rhai argraffiadau o'r Beibl). Mae'n cynnwys y Pedair Efengyl sy'n adrodd bywyd a gweinyddiaeth Iesu Grist a chyfres o lythyrau gan ei ddisgyblion. Mae'n cloi gyda Llyfr y Datguddiad. Fe'i gelwir 'Y Testament Newydd' am ei fod yn ymwneud â bywyd a neges Crist a ystyrid fel y Meseia a broffwydolir yn yr Hen Destament.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search