Ynys

Erthygl am y tirffurf yw hon. Am y pentref yng Ngwynedd gweler Ynys (Llanfihangel-y-traethau).
Ynys Moelfre oddi ar Ynys Môn, Cymru

Darn o dir a amgylchynnir gan ddŵr yw ynys (ac eithrio'r cyfandiroedd). Gall fod yn y môr neu ar y tir. Ynys fwyaf y byd yw Yr Ynys Las (2.2 miliwn km² / 840,000 milltir sgwâr).

Mae ynysoedd cyfandirol, fel Prydain, yn gorwedd ar silffoedd cyfandirol gyda dim ond sianel o ddŵr rhyngddyn nhw â'r tir mawr, fel rheol.

Mae ynysoedd cefnforol orogenig yn tueddu i orwedd lle mae dau blât lithosfferig yn cwrdd. Mae ynysoedd Siapan yn odweddiadol o'r fath yma o ynys.

Yn rhannau dyfnaf y cefnforoedd ceir ynysoedd cefnforol fwlcanig, fel ynysoedd Hawaii. Mae'r rhain yn arbennig o gyffredin yn y Cefnfor Tawel. Mae gan nifer o ynysoedd coral seiliau fwlcanig hefyd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search