Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6861°N 3.9069°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Mike Hedges (Llafur) |
AS/au | Carolyn Harris (Llafur) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Treforys, Sir Abertawe, Cymru, yw Ynysdawe ( ynganiad ) neu Ynystawe[1][2] (hefyd Ynys Dawe). Fe'i lleolir ar lan Afon Tawe i'r gogledd o ddinas Abertawe fymryn i'r de o Glydach. Rhed yr M4 heibio i'r de o'r pentref.
Gyferbyn ag Ynysdawe ceir Ynysforgan. Roedd gan y ddau le ran amlwg ym mywyd diwylliannol Morgannwg yn yr Oesoedd Canol am fod dau gartref y Tomasiaid yn gorwedd yno, un yn Ynysforgan a'r llall yn Ynysdawe. Yr enwocaf o'r teulu oedd Hopcyn ap Tomas (tua 1350 - 1400au), casglwr llawysgrifau, brudiwr a noddwr beirdd. Yn ôl traddodiad galwodd Owain Glyndŵr am ei gyngor fel brudiwr yn 1403 ac roedd Llyfr Coch Hergest a nifer o lawysgrifau eraill yn ei feddiant.
Lleolir Ysgol Gynradd Ynystawe yn y pentref. Mae'n ysgol gyfrwng Saesneg fechan sy'n bwydo Ysgol Gyfun Treforys. Ceir yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg agosaf yng Nghlydach a Llansamlet, ger llaw.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Carolyn Harris (Llafur).[3][4]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search