Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol | |
Pencadlys | Fienna, Awstria |
---|---|
Aelodaeth | 144 o aelod-wladwriaethau |
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Ffrangeg, Rwseg, Saesneg, Sbaeneg a Tsieineeg |
Cyfarwyddwr Cyffredinol | Mohamed ElBaradei |
Sefydlwyd | 1957 |
Gwefan | http://www.iaea.org |
Sefydlwyd yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA, Saesneg: International Atomic Energy Agency) ar 29 Gorffennaf 1957 i ehangu a chryfhau cyfraniadau ynni atomig i heddwch, iechyd a ffyniant. Mae'n cynorthwyo aelod-gwladwriaethau, yn enwedig gwledydd datblygol, trwy ddarparu cyfleusterau ar gyfer gwyddoniaeth a thechnoleg niwclear, yn cynnwys adweithyddion niwclear, arian i gyllido ymchwil, a chymorth a gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â defnyddiau heddychlon ynni atomig. Mae'r IAEA hefyd yn ymchwilio i ffynonellau ynni i ddisodli tanwyddau ffosil.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search